Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Gwener, 07 Mis Gorffenaf 2023
Bro Morgannwg
Ar ôl i'r ffordd ddod dan reolaeth y Cyngor yn gynharach eleni, aeth y Tîm Priffyrdd ati i gynnal rhaglen o waith adnewyddu yn ystod mis Mai.
Roedd hyn yn cynnwys llenwi tyllau cyn gosod arwyneb newydd ar y ffordd gyfan, gyda'r llwybr troed hefyd wedi'i uwchraddio.
Roedd y ffordd wedi bod yn eiddo preifat yn y gorffennol ac yn ystod y cyfnod hwnnw dirywiodd ei chyflwr. Roedd ei gwella yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth i'r Cyngor gan ei bod yn darparu cyswllt hanfodol rhwng Dock View Road a gorsaf drenau Dociau'r Barri.
Dwedodd y Cynghorydd Mark Wilson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladau: "Mae Tîm Priffyrdd y Cyngor yn gwneud gwaith atgyweirio ffyrdd a phalmentydd yn rheolaidd ledled y Sir.
"Ar hyn o bryd rydym yn gweithio drwy amserlen o welliannau, ond ystyriwyd hyn yn fater brys oherwydd ei leoliad pwysig ger gorsaf drenau Dociau'r Barri.
"Bydd y gwaith, a oedd yn golygu uwchraddio'r ffordd a'r llwybr troed yn sylweddol, o fudd i gerddwyr, beicwyr a gyrwyr, gan wneud eu teithiau ar hyd Heol yr Isffordd yn fwy cyfforddus."
Gall preswylwyr roi gwybod i’r Cyngor am dyllau sydd angen sylw drwy adrodd amdanynt ar y wefan.