Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn cymeradwyo cyllid ar gyfer prosiectau cymunedol 

Mae llu o brosiectau lleol wedi elwa o chwistrelliad o arian yn dilyn datgelu derbynwyr diweddaraf Cronfa Grant Cymunedau Cryf Cyngor Bro Morgannwg.

 

  • Dydd Mawrth, 25 Mis Gorffenaf 2023

    Bro Morgannwg



Mae’r gronfa yn cynnig grantiau i Grwpiau Cymunedol, sefydliadau gwirfoddol  a Chynghorau Tref a Chymuned. 

 

Gall yr arian fynd tuag at gost gwahanol fentrau yn y Fro sy'n helpu i gefnogi gweledigaeth y Cyngor o 'Gymunedau Cryf â Dyfodol Disglair'.

 

Y nod yw gwella gwydnwch sefydliadau a'u gweithgareddau trwy helpu i ariannu prosiectau sy'n ychwanegu gwerth at waith sy’n cael ei wneud yn barod.

 

Rhaid i geisiadau ddangos cynaliadwyedd tymor hwy i leihau'r ddibyniaeth ar grantiau yn y dyfodol. 

 

Yn 2020, cytunodd Cabinet y Cyngor y byddai bron i £850,000 yn cael ei ddyrannu dros y pum mlynedd nesaf drwy'r Gronfa Grant

Cymunedol Llinynnol gyda £25,000 yr uchafswm sydd ar gael fesul prosiect. 

 

Mae cyfanswm o dros £150,000 o gyllid wedi'i gymeradwyo ar gyfer 21 o brosiectau yn dilyn y rownd ddiweddaraf o geisiadau. 

 

Ymhlith y rhai sydd wedi elwa mae Motion Control Dance, clwb dawns cymunedol sydd wedi'i leoli yn YMCA y Barri, a dderbyniodd dros £10,000 i dalu am diwtor newydd. 

 

Yn rhedeg ochr yn ochr â'r brif gronfa mae'r Gronfa Grant Bach, sy'n dyfarnu hyd at £3,000 ar gyfer cynlluniau ar raddfa lai. 

 

Llwyddodd cyfanswm o 11 cais i gael gafael ar arian drwy'r llwybr hwn, gan gynnwys Clwb Pêl-droed Barry Athletic a dderbyniodd yn agos

i’r uchafswm er mwyn talu am gynhwysydd llongau i storio offer.

Brooks, BronwenDwedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Aelod Cabinet Bro Morgannwg dros Fannau Cynaliadwy:  "Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i adeiladu Cymunedau Cryf â Dyfodol Disglair ac rydym yn gobeithio y bydd y cyllid hwn yn gwneud yn union hynny.

 

"Bydd yn cael ei ddefnyddio tuag at ariannu prosiectau a fydd yn cyfoethogi'r ardal leol a'r bobl sy'n byw yno.

 

"Ar draws y ddwy ffrwd ariannu, mae cyfanswm o 33 o geisiadau wedi bod yn llwyddiannus ac rwy'n edrych ymlaen yn arw at weld y gwahaniaeth y mae'r arian hwn yn ei wneud."