Y cyngor a'r heddlu'n ymchwilio i fandaliaeth i fainc
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gweithio gyda Heddlu De Cymru ddod o hyd i’r sawl sy'n gyfrifol am fandaleiddio mainc ym Mhenarth
Cydweithiodd yr artist lleol David Mackie a thua 120 o ddisgyblion o ysgolion cynradd Albert Road a Cogan i greu mainc bwrpasol ym Mharc Dingle gyda thema bywyd gwyllt.
Mae delweddau o fyd natur, gan gynnwys rhai adar, gloÿnnod byw a morgrug, wedi'u cerfio ar bren caled, gan adlewyrchu anifeiliaid sy'n frodorol i'r ardal.
Mae hefyd yn darlunio creaduriaid chwedlonol fel ellyll i danio trafodaeth tra bod ymwelwyr yn eistedd i lawr ac yn cymryd hoe.
Yn ddiweddar, cafodd y gwaith celf hardd hwn ei ddifetha ar ôl cael ei dagio â phaent chwistrellu melyn a glas.
Ar hyn o bryd mae Tîm Parciau'r Cyngor a Mr Mackie yn asesu sut orau i fynd ati i gael gwared ar y graffiti.
Mae'r mater hwn hefyd wedi cael ei adrodd i Heddlu De Cymru.
Dwedodd y Cynghorydd Mark Wilson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladau: "Mae hon yn weithred ofnadwy o fandaliaeth nad yw'r Cyngor yn barod i'w derbyn.
"Mae'r fainc mewn gwirionedd yn gerflun wedi ei saernïo'n ofalus, yn ganlyniad i oriau o waith caled gan David Mackie a phlant ysgol lleol.
"Fe'i cynlluniwyd i gyfoethogi'r gymuned leol felly mae ei gweld yn cael ei thrin fel hyn yn peri gofid mawr i bawb sy'n gysylltiedig.
"Ni fydd ymddygiad o'r fath yn cael ei oddef. Rydym yn gweithio gyda'r heddlu i ddod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol a byddwn yn cymryd y camau cryfaf posibl pan fyddwn yn gwneud hynny."
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth ei hadrodd ar-lein, gan ddyfynnu'r rhif trosedd 2300241382