Cost of Living Support Icon

 

Agor Gardd Lles Cymunedol yn Nhregatwg

Mae tîm Dechrau'n Deg Cyngor Bro Morgannwg wedi agor gardd synhwyraidd a lles i roi cyfle i deuluoedd ddysgu am fyd natur a rhoi cynnig ar dyfu llysiau a pherlysiau.

  • Dydd Mawrth, 04 Mis Gorffenaf 2023

    Bro Morgannwg



Children Playing with Sensory Items at Cadoxton Community GardenWedi'i lleoli yng nghanolfan deulu Dechrau'n Deg ar Gladstone Road yn y Barri, roedd yr ardd yn weledigaeth y Rheolwr Gofal Plant, Joanne Flaherty, a oedd eisiau dangos pa mor fuddiol yw hi i blant fod allan ym myd natur yn ogystal â helpu teuluoedd i ddysgu gyda'i gilydd trwy chwarae yn yr awyr agored.

 

Daeth y weledigaeth hon yn realiti diolch i sgiliau arbenigwyr dysgu awyr agored lleol Bespoke Creative Play a chyllid gan Learning through Landscapes, Cyngor Tref y Barri a Phartneriaeth Natur Leol Bro Morgannwg. 

 

Bydd y plant sy'n mynychu'r lleoliadau gofal plant yn y ganolfan deulu nawr yn gallu dysgu am natur drwy archwilio'r blodau, y perlysiau a'r planhigion. Bydd blychau plannu pren mawr yn caniatáu i'r plant dyfu ffrwythau, salad a llysiau i'w casglu a mynd â nhw adref. Mae'r ardd ar agor i deuluoedd y mae Dechrau'n Deg yn gweithio gyda nhw felly gall rhieni a gofalwyr hefyd fanteisio ar gynnyrch ffres i fynd ag ef adref a choginio gyda'u plant. 

 

Dwedodd y Cynghorydd Eddie Williams, yr  Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd, a agorodd yr ardd yn swyddogol:  "Rydym am i'r ardd fod yn lle addysgiadol llawn hwyl lle gall plant archwilio, datblygu a dysgu trwy eu synhwyrau yn ogystal ag ardal sy'n cefnogi cynaliadwyedd. Nid am fwyd yn unig bydd hyn, mae'r tîm wedi gosod bwydwyr adar, pyllau adar a thŷ draenogod fel y gall y plant wylio bywyd gwyllt yn ymweld â'r ardd a dysgu am yr holl anifeiliaid y mae'r amgylchedd naturiol yn eu cefnogi.

 

The team who worked on the Community Garden"Mae yna gyfoeth o dystiolaeth sy'n dangos y gall bod yn yr awyr agored gefnogi iechyd corfforol a meddyliol, yn ogystal ag ymdeimlad cyffredinol o les. Mae'r ardd wedi’i chysgodi o'r ffordd i sicrhau preifatrwydd. Ein gobaith gwirioneddol yw y bydd yr ardd newydd, yn ogystal â rhoi lle i blant ddysgu, yn galluogi teuluoedd cyfan i gysylltu â natur." 

Dywedodd llefarydd ar ran Partneriaeth Natur Leol y Fro: "Rydym yn falch iawn o gefnogi Jo a'r tîm yn Dechrau'n Deg gyda chreu gardd synhwyraidd newydd, a fydd yn cynyddu bioamrywiaeth ac yn annog natur a bywyd gwyllt i ffynnu yng nghanol y gymuned.

 

"Rydym yn gobeithio y bydd y gofod pwrpasol hwn yn darparu mynediad i blant a'u teuluoedd i gael profiad o fudd y byd natur a gwella iechyd a lles."