Dechrau gwaith ar Gyfnewidfa Drafnidiaeth Dociau yr Barri
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi dechrau gwaith ar Gyfnewidfa Drafnidiaeth Dociau'r Barri.
Ar ôl ei gwblhau, bydd hyn yn dod yn bwynt cyfarfod ar gyfer gwahanol ddulliau o deithio, gan greu canolbwynt ar gyfer mathau cynaliadwy o deithio.
Yn ffinio ag adeilad Swyddfa Dociau Rhestredig Gradd II y Cyngor, mae'r prosiect yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd (P-RC) a Llywodraeth Cymru.
Bydd yn cysylltu gwasanaethau trenau, bws, beicio a thacsis yn ogystal â chynnig cyfleusterau parcio a theithio gerllaw.
Dywedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Mae hwn yn brosiect uchelgeisiol, blaengar, a nodwyd yn wreiddiol yn y Cynllun Datblygu Lleol, a all helpu i wneud teithio cynaliadwy yn fwy cyfforddus, cyfleus, ac apelgar.
"Mae cysylltu gwahanol ddulliau o drafnidiaeth gyhoeddus gyda'i gilydd fel hyn yn cynnig dewis arall deniadol, ecogyfeillgar i deithio mewn car.
"Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r Argyfwng Hinsawdd ac mae'r cynllun hwn yn alinio'n berffaith â'n menter Prosiect Sero i wneud yr Awdurdod yn garbon niwtral erbyn 2030.
"Gall hefyd gefnogi datblygiad economaidd y Barri a rhanbarth ehangach Dinas Caerdydd, gan helpu'r rhai sy'n chwilio am fynediad at gyfleoedd cyflogaeth ac addysg."
Amey Consulting a gynlluniodd y datblygiad, a bydd yn rheoli’r prosiect, a dechreuodd y contractwyr Jones Bros Civil Engineering UK gam un o’r prosiect yn gynharach y mis hwn.
Bydd hynny yn gweld cyfnewidfa bysiau a thacsis wedi'i leoli i'r de o'r orsaf mewn ardal o’r maes parcio, gyda disgwyl i'r gwaith gael ei orffen erbyn Mai.
Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad y llynedd ac ymgynghorwyd ag ystod eang o randdeiliaid cyn dechrau ar y gwaith. Roedd y rhain yn cynnwys busnesau lleol, darparwyr gwasanaethau a sefydliadau cymunedol.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Davies, Cadeirydd Awdurdod Trafnidiaeth Heol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: "Mae Cyfnewidfa Trafnidiaeth Dociau'r Barri, un o'n 10 Cynllun Metro+, yn ddatblygiad allweddol yn yr adfywiad parhaus trawiadol o'r Barri. "Mae'r cynlluniau trawsnewidiol hyn yn dod â lefel o gysylltedd a fydd yn talu ar ei ganfed i ddinasyddion presennol a chenedlaethau'r dyfodol - o ran amgylchedd wyrddach, mwy o gyfleoedd bywyd a chymunedau mwy llewyrchus.
"Yn y pen draw, mae Cyfnewidfa Dociau'r Barri yn rhan bwysig o weledigaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gyfer system drafnidiaeth integredig, a fydd yn gwneud De Ddwyrain Cymru yn un o’r Rhanbarthau mwyaf cystadleuol ac addas ar gyfer y dyfodol yn y DU.”
Meddai Katie Burnell, Cyfarwyddwr Cyswllt Amey Consulting: "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gweithio ochr yn ochr â Chyngor Bro Morgannwg ar ddyluniad Cyfnewidfa Drafnidiaeth Dociau'r Barri.
“Mae ein gallu ymgynghori a dylunio, sy’n arwain y diwydiant, wedi darparu dyluniad uchelgeisiol ac arloesol a fydd yn darparu cyfnewidfa drafnidiaeth gynaliadwy ac effeithlon i bobl y Barri a De Cymru. Bydd hynny'n gwella ansawdd bywyd, yn cefnogi'r economi leol ac yn annog defnyddio dulliau teithio mwy gwyrdd.
"Mae'r prosiect yn adeiladu ar ymrwymiad Amey Consulting i wella trafnidiaeth ledled Cymru ac mae wedi'i gyflawni mewn cydweithrediad â llawer o fusnesau bach a chanolig yn ein cadwyn gyflenwi.
"Rydym nawr yn edrych ymlaen at reoli'r cyfnod adeiladu ar ran y Cyngor."