Cyngor yn lansio ymgynghoriad ar gynigion y gyllideb ddrafft
Yn dilyn cyfarfod o Gabinet Cyngor Bro Morgannwg heddiw, gwahoddir trigolion i rannu eu barn ar gynigion i gynyddu’r Dreth Gyngor 4.9 y cant a mynd i'r afael â diffyg cyllidebol o tua £9 miliwn.
Hyd yn oed gyda'r cynnydd arfaethedig o 4.9 y cant, disgwylir i'r Dreth Gyngor ym Mro Morgannwg aros yn is na'r swm cyfartalog sy'n cael ei godi gan awdurdodau lleol eraill Cymru.
Mae'r Cyngor hefyd yn cynnig defnyddio cronfeydd wrth gefn yn ofalus, adolygiad o wasanaethau gyda thargedau arbedion a nodwyd, cynnydd mewn taliadau am rai gwasanaethau o rhwng pump ac 11 y cant a chyflwyno taliadau am wasanaethau anstatudol i bontio'r bwlch ariannu.
Fel gydag Awdurdodau Lleol eraill, busnesau ac unigolion, mae amgylchedd economaidd anwadal, y cynnydd aruthrol mewn prisiau ynni a chodiad yn y gyfraddau llog a chwyddiant wedi effeithio’n sylweddol ar y Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Er gwaethaf setliad gwell na'r disgwyl gan Lywodraeth Cymru, rydym yn dal i fod mewn sefyllfa ariannol heriol dros ben.
"Mae costau cynyddol yn golygu bod diffyg ariannol sylweddol sydd angen ei bontio.
"Byddwn yn parhau i chwilio am ffyrdd newydd ac arloesol o bontio’r diffyg hwn a bydd barn y gymuned yn chwarae rhan allweddol wrth benderfynu ar y ffordd ymlaen.
"Byddwn yn annog trigolion i rannu eu meddyliau gyda ni trwy gymryd rhan yn ein harolwg ar-lein fel y gallant fod yn rhan o'r broses barhaus o osod y gyllideb."
Prif ffynonellau incwm y Cyngor yw setliad gan Lywodraeth Cymru, sy'n rhoi tua 69 y cant o'r £294 miliwn sydd ei angen ar y Cyngor i ddarparu ei holl wasanaethau. Daw 31% o'r gyllideb gyffredinol o arian y Dreth Gyngor.
Mae'r broses o osod y gyllideb yn gymhleth ac felly er mwyn rhoi mwy o gyd-destun i drigolion ar gyfer y cynigion hyn mae'r Cyngor wedi paratoi fideo byr i egluro'r gwahanol ffactorau. Mae hwn, law yn llaw ag arolwg sy'n gwahodd trigolion i rannu eu barn ar y cynigion, i'w gweld drwy ymweld â'r dudalen ymgynghori benodol ar y gyllideb.