Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn dechrau cyfnod preswyl ym Mhafiliwn Pier Penarth
Bydd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) yn dechrau ar gyfnod preswyl ym Mhafiliwn Pier Penarth mewn partneriaeth newydd gyffrous gyda Chyngor Bro Morgannwg.
Cytunwyd ar drefniant peilot am flwyddyn pan fydd y Coleg yn cynnal sesiynau cerddoriaeth i rieni a phlant bach, yn lleoli ensemble bach yn y pafiliwn ac yn cynnal nosweithiau Band Dawns i'r gymuned leol.
Wedi'i sefydlu yn 1949, mae CBCDC wedi meithrin enw rhyngwladol fel canolfan o ragoriaeth artistig, gan helpu oedolion ifanc i fireinio eu sgiliau ar draws y celfyddydau perfformio a diwydiannau cysylltiedig.
Dywedodd y Cynghorydd Ruba Sivagnanam, Aelod Cabinet Bro Morgannwg dros Ymgysylltu â'r Gymuned, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoliadol: "Rwy'n falch iawn y byddwn yn gweithio mor agos gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i ddod â phrofiadau cerddorol o ansawdd uchel i'n trigolion.
"Mae'r coleg yn cael ei ystyried yn eang fel un sy'n cynhyrchu gweithwyr proffesiynol creadigol o'r radd flaenaf, sy'n gwneud y cysylltiad hwn mor gyffrous.
"Mae nid yn unig yn cynnig llwyfan i gerddorion y dyfodol, ond mae hefyd yn rhoi cyfle i'r cyhoedd weld talent anhygoel sy'n dod i'r amlwg.
"Dyma'r enghraifft ddiweddaraf o waith y mae'r Cyngor yn ei wneud i ailddatblygu'r pafiliwn a'i adfer fel ased cymunedol."

Bydd y sesiynau cerddorol i rieni a phlant bach yn cael eu cynnal gan Julia Plaut, cyfansoddwr a fu'n gwasanaethu am flynyddoedd lawer fel Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Iau yn Ysgol Cadeirlan Llandaf, ac yn cymryd dwy ffurf – Alawon i’r Rhai Bach a Chyngherddau Bychain.
Yn digwydd ar fore yn ystod yr wythnos yn oriel y pafiliwn, bydd sesiynau Alawon i’r Rhai Bach yn canolbwyntio ar gerddoriaeth a symudiad sy'n helpu plant i ryngweithio a chymdeithasu.
Bydd y Cyngherddau Bychain yn ddigwyddiadau cerddorol i deuluoedd yn ystod y prynhawn ar benwythnosau, wedi'u hanelu’n benodol ar gyfer y rhai dan 5 oed, sy'n cynnwys gweithiau newydd gan gyfansoddwyr CBCDC.
Bydd yr ensemble sydd wedi'i leoli yn y pafiliwn yn rhannu ei amser rhwng ymarfer preifat, mentora cerddorion ifanc, ymgysylltu ag ysgolion a pherfformiadau cyhoeddus.
Cynigir y bydd pedwar perfformiad 45 i 60 munud y flwyddyn yn y pafiliwn yn cynnwys hyd at 10 chwaraewr ac wedi'u hymestyn dros dymhorau'r hydref, y gwanwyn, a'r haf.
Bydd Noson Ddawns y Band Mawr yn ddigwyddiad 90 munud a dreialwyd yn y gwanwyn ac a fydd yn cynnwys darnau enwog gan bobl fel Glen Miller, Stan Kenton a Harry James.
Mae'r band yn cynnwys myfyrwyr o'r cyrsiau clasurol a jazz, ac yn cynnwys pum sacsoffon, pedwar trwmped, pedwar trombôn, piano, bas, gitâr a drymiau.
Bydd mwy o fanylion am yr holl ddigwyddiadau uchod ar gael ar wefan y Cyngor.