Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn ceisio erlyn am ddifrod coed

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gobeithio erlyn y rhai sy'n gyfrifol am fandaleiddio coeden ym Mharc Highlight.

 

  • Dydd Gwener, 10 Mis Chwefror 2023

    Bro Morgannwg

    Barri



Mae coeden dderw ar dir rhwng Coed Mawr ac Andover Close wedi cael ei changhennau wedi’u gwaredu heb ganiatâd, gweithred sy'n debygol o'i lladd.


Credir i hyn ddigwydd ar brynhawn dydd Sul, 5 Chwefror.


Roedd y goeden yn werth hyd at £28,000, yn ôl Gwerth Ased Cyfalaf Coed Amwynder (CAVAT), y system a ddefnyddir i wneud cyfrifiadau o'r fath.


Cafodd y mater ei adrodd i'r Heddlu a bydd y Cyngor wrthi'n ceisio dechrau achos cyfreithiol yn erbyn unrhyw un dan sylw.

 

highlighttwo

Mae'n ymddangos bod coeden onnen gerllaw sydd â gwerth o tua £900 hefyd wedi cael ei difrodi'n ddifrifol iawn.


Dywedodd y Cynghorydd Mark Wilson, Aelod Cabinet dros Gymdogaeth a Gwasanaethau Adeiladu: "Mae hon yn weithred warthus o ddifrod troseddol ac yn rhywbeth nad ydym yn barod i'w oddef. 


"Dwi'n siŵr bod y rhan fwyaf o'r trigolion yn rhannu fy nicter o ran beth sydd wedi digwydd i'r goeden yma, ond mae'n bwysig bod y rhai sy'n gyfrifol, neu unrhyw un arall sy'n ystyried gwneud rhywbeth tebyg, hefyd yn sylweddoli bod hyn yn gwbl annerbyniol.


"Ein nod yw cymryd y camau cryfaf posib yn erbyn unigolion y canfuwyd eu bod wedi chwarae rhan yn y digwyddiad hwn a byddwn yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i ddod ymlaen."


Gellir adrodd manylion, gan gynnwys delweddau a lluniau fideo, i Heddlu De Cymru ar-lein gan gyfeirio at rif trosedd 2300039760.

 

Os oes gan drigolion broblem gyda choeden sy'n eiddo i'r cyngor ym Mro Morgannwg, dylent godi eu pryder drwy system adrodd ar-lein y Cyngor a pheidio â gweithredu eu hunain.