Cabinet y Cyngor yn Cymeradwyo Cynigion Cyllideb
Mae Cabinet Cyngor Bro Morgannwg wedi cymeradwyo cynigion cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf mewn cyfarfod ddoe.
Bydd y cynigion hyn nawr yn cael eu penderfynu drwy bleidlais yn y Cyngor Llawn yr wythnos nesaf.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys cynnydd o 4.9 y cant yn y Dreth Gyngor, adolygiad o wasanaethau gydag arbedion a nodwyd, cynnydd mewn taliadau am rai gwasanaethau o rhwng pump ac 11 y cant a thaliadau am rai gwasanaethau anstatudol.
Mae'r mesurau yn angenrheidiol wrth i'r Awdurdod geisio mynd i'r afael â diffyg ariannol o £9.7 miliwn.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Er gwaethaf setliad gwell na'r disgwyl gan Lywodraeth Cymru, rydym yn dal i fod mewn sefyllfa ariannol heriol dros ben.
"Yn anffodus, mae hynny'n golygu bod rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd ac annymunol gan nad oes gennym yr arian i gynnal yr holl wasanaethau ar y lefelau presennol.
"Ein blaenoriaeth o hyd yw amddiffyn ysgolion a sicrhau bod ein preswylwyr mwyaf bregus yn parhau i dderbyn y gofal a'r cymorth sydd ei angen arnynt.
"Mae pecyn arbedion o tua £7.4 miliwn wedi cael ei gyflwyno, ynghyd â'r defnydd arferol o gronfeydd wrth gefn yn y byrdymor, i bontio'r bwlch cyllid.
"Drwy'r ymgynghoriad cyhoeddus yn ddiweddar, mae trigolion wedi cael dweud eu dweud ar y cynigion hyn, ac maent hefyd wedi cael eu hystyried gan bwyllgorau craffu."
Fel gydag Awdurdodau Lleol eraill, busnesau ac unigolion, mae amgylchedd economaidd anwadal, y cynnydd aruthrol mewn prisiau ynni a chodiad yn y gyfraddau llog a chwyddiant wedi effeithio’n sylweddol ar y Cyngor.
Prif ffynhonnell incwm y Cyngor yw setliad gan Lywodraeth Cymru, sydd, gan gynnwys cyfraniad gan ardrethi busnes cronnol, yn darparu tua 69 y cant o'r £294 miliwn sydd ei angen arno i ddarparu'r holl wasanaethau. Daw 31% o'r gyllideb o arian y Dreth Gyngor.
Disgwylir y bydd y cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor o 4.9 y cant yn llai na'r cynnydd a gyflwynwyd gan y rhan fwyaf o Awdurdodau Lleol eraill Cymru a ddylai olygu bod trigolion y Fro yn parhau i dalu llai na'r cyfartaledd sy'n cael ei godi yng Nghymru.