Cost of Living Support Icon

 

Plant ysgol y Fro yn helpu i blannu hadau ar gyfer prosiect tirwedd 'Cnau ar gyfer Coed' Adfer y Ddawan

Mae disgyblion a bysedd gwyrdd o naw o ysgolion cynradd Bro Morgannwg wedi bod yn brysur yn gweithio gyda'r Prosiect Tirwedd Adfer y Ddawan ar ei is-brosiect 'Cnau ar gyfer Coed'.

 

  • Dydd Gwener, 01 Mis Rhagfyr 2023

    Bro Morgannwg



Nuts for Trees planting seedsLansiodd Prosiect Tirwedd Adfer y Ddawan ym mis Gorffennaf eleni fel rhaglen waith dair blynedd i wneud gwelliannau bioamrywiaeth ar hyd Afon Ddawan a'r dirwedd o'i chwmpas.

 

Yn fwyaf diweddar, mae plant ysgol lleol wedi cymryd rhan yn y prosiect 'Cnau ar gyfer Coed' wrth yr Afon Ddawan a oedd yn cynnwys disgyblion yn casglu a phrosesu hadau coed brodorol o'u hardal leol, ac yna'n eu plannu mewn modiwlau a wnaed yn arbennig. Bydd y modiwlau hyn yn cael eu tendro'n ofalus mewn meithrinfa goed leol dros y ddwy flynedd nesaf – gyda'r coed yn barod i'w plannu ym mlwyddyn tri y prosiect i ddarparu coridorau natur ar draws dalgylch Afon y Ddawan.

 Meddai Mel Stewart, Rheolwr Prosiect Tirwedd y Ddawan: "Rydym wedi ymrwymo i blannu dros 30,000 o goed yn ystod y blynyddoedd nesaf felly mae angen yr holl help y gallwn ei gael. 

 

"Roedd hi'n gymaint o bleser cael disgyblion o ysgolion cynradd lleol yn cynorthwyo gyda'r prosiect 'Cnau ar gyfer Hadau'.  Mae cyfranogiad ac ymgysylltiad cymunedol yn rhan enfawr o'r prosiect Adfer y Ddawan, ac mae ymgysylltu â phobl ifanc ym mhwysigrwydd tirweddau bioamrywiol yn hanfodol."

 

"Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Nancy Evans, o Coed y Tor Trees sy'n helpu gyda'r prosiect hwn ac yn treulio'r Gaeaf yn gwarchod yr hadau sydd newydd eu plannu rhag llygod llwglyd! "

Nuts for Trees sorting seed basket

Dwedodd Emily Shaw, Cydlynydd Partneriaeth Natur y Fro, sydd wedi helpu i ariannu'r prosiect hwn yn rhannol: "Rydyn ni'n gwybod cymaint mae plant wrth eu bodd yn ymgysylltu â natur ac yn teimlo'n rhan o'i ryfeddod. 

 

"Rydym yn gobeithio y bydd y prosiect newydd hwn yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i brofi'r hud a'r llawenydd o gasglu hadau a thyfu'r genhedlaeth nesaf o goed, llwyni a gwrychoedd sy'n gwella bywyd." 

Yn ddiweddar, lansiodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru Ymgyrch Cymru Can er mwyn helpu i greu Cymru ffyniannus, gynhwysol a gwyrdd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

 

Mae Cymru Can yn rhaglen saith mlynedd sy'n nodi pum cenhadaeth i holl gyrff cyhoeddus Cymru eu dilyn er mwyn cyflawni eu gweledigaeth o well yfory.  Mae un o'r cenadaethau yn canolbwyntio ar hinsawdd a natur, gan sicrhau bod holl gyrff cyhoeddus Cymru yn cyflawni eu nodau sero net a natur gadarnhaol erbyn 2030.

 

Mae Prosiect Tirwedd Adfer y Ddawan wedi ymrwymo i wella bioamrywiaeth Afon Ddawan, ei llednentydd a'r dirwedd o'i chwmpas trwy blannu coed ac adfer dolydd ymhlith prosiectau eraill, sy'n unol ag amcanion hinsawdd a natur Cymru Can.

 

Bydd tîm Adfer y Ddawan yn darparu ystod bellach o brosiectau adfer natur dros y tair blynedd nesaf diolch i gyllid gan Gronfa Loteri Genedlaethol Rhwydweithiau Natur. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y prosiect, gallwch edrych ar eu cyfryngau cymdeithasol a'u gwefan i gael manylion am weithgareddau eraill.  Fel arall, gallwch gysylltu â thaw@valeofglamorgan.gov.uk am fwy o wybodaeth.