Achos Siôn Corn yn dod â llawenydd i’r Fro
Diolch i haelioni trigolion, staff y Cyngor, a sefydliadau lleol, mae Achos Siôn Corn yn dosbarthu dros 1,000 o anrhegion i deuluoedd yn y Fro mewn pryd ar gyfer y Nadolig.
Yn gynharach eleni, lansiodd Cyngor Bro Morgannwg Achos Siôn Corn 2023, ymgyrch codi arian a rhoi anrhegion gyda’r nod i roi anrheg Nadolig i bob plentyn a pherson ifanc yn y Fro a allai fel arall aros heb un.Ar ôl galw ar gefnogaeth y gymuned, derbyniodd yr ymgyrch gannoedd o roddion.
Nawr, yn y cyfnod cyn y Nadolig, mae timau Dechrau'n Deg a Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor yn dosbarthu'r anrhegion i deuluoedd ledled y Sir.
Yn dilyn llwyddiant ysgubol yr ymgyrch, mae'r Cyngor yn diolch i'r busnesau a’r sefydliadau hynny y gwnaeth eu rhoddion caredig hyn yn bosibl: Wynter Isabelle Bridal, Greenbrick Group Ltd, Mari Jones, Merricks Transport Ltd, Ace Site Services (UK) Limited, Tom Pritchard Contracting Limited, Parent Pay, New Directions, Barry Town United Football Club, A S Lloyd & Sons Ltd, Hugh James, Eglwys Rydd Unedig y Bont-faen, Tai Newydd, Romaquip, Clwb Tennis Lawnt Penarth, Gibson STS Ltd, Zengenti, The Works (Barry), The Entertainer (Caerdydd), Aston Martin, Creigiau Travel Ltd, Clwb Rotari Llanilltud, Apollo Teaching, Heddlu De Cymru, Watts Truck and Van Centre, Achubwyr Bywyd y Rhws, Ysgol Y Deri, ac Ysgol Gynradd Sili.
Ochr yn ochr â chefnogaeth gan fusnesau lleol, mae grwpiau cymunedol a lleoliadau ledled y Fro wedi trefnu eu mentrau codi arian a rhoi anrhegion eu hunain i ddarparu ar gyfer yr achos. Ar 01 Rhagfyr cynhaliodd Canolfan Gwasanaeth Dydd Hen Goleg yn y Barri Ffair Nadolig, gan godi £700 ar gyfer yr ymgyrch.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd y Cyngor: "Rwy'n hynod falch o'n sefydliad a'n cymunedau am gefnogi Achos Siôn Corn. Rwyf wedi fy syfrdanu gan y haelioni y mae trigolion, busnesau a staff wedi’i ddangos.
"Mae'r ymgyrch wedi bod yn ymdrech gydweithredol enfawr, ac mae pob rhodd, mawr neu fach, wedi chwarae rhan yn ei gwneud yn llwyddiant.
"Yn anffodus, gall y Nadolig fod yn gyfnod llawn straen a phryder i lawer o deuluoedd. Gobeithio y bydd pob bag rhodd yn lleddfu'r straen hwnnw ychydig, ac yn helpu teulu i gael Nadolig llawen eleni.
“P'un a wnaethoch rannu'r achos ar y cyfryngau cymdeithasol, rhoi anrheg, cyfrannu arian, neu gynnig eich gwasanaethau, oddi wrthym a channoedd o deuluoedd ledled y Fro… Diolch yn fawr a Nadolig Llawen!"