Mae ein digwyddiad Ein Gorwelion Bwyd yn allweddol i wella system fwyd y Fro
Ar 23 Tachwedd, ymunodd dros 60 o actifyddion, cynhyrchwyr bwyd a phartneriaid allweddol at ei gilydd yng Nghanolfan Gelfyddydau Memo y Barri i drafod strategaeth a gweledigaeth ar gyfer dyfodol bwyd ym Mro Morgannwg.
Cafodd y digwyddiad ei gynnal gan Bwyd y Fro, y bartneriaeth bwyd cynaliadwy ar gyfer Bro Morgannwg, a hwn yw’r cam nesaf yn eu nod o wneud y system fwyd leol ym Mro Morgannwg yn iachach ac yn fwy cynaliadwy. Er disgwylir i’r strategaeth bara am 5 mlynedd, bydd yn cael ei hymgorffori mewn gweledigaeth 100 mlynedd fel arwydd i gydnabod pwysigrwydd meddwl hirdymor er mwyn sicrhau bod anghenion cenedlaethau'r dyfodol yn cael eu hystyried.
Dechreuodd y diwrnod gyda chyfres o gyflwyniadau gan westeion arbennig a oedd yn gallu gosod yr olygfa ar gyfer y trafodaethau a fyddai'n dilyn.
Yna cafodd cyfranogwyr eu harwain gan Holly Butterworth o Cyfoeth Naturiol Cymru trwy'r Fframwaith Tri Gorwel – pecyn cymorth i wneud synnwyr o’n gweledigaeth ar gyfer y dyfodol a pha fesurau y gellid eu cyflwyno yn y presennol er mwyn cyflawni hyn.
Y camau nesaf

Bydd Bwyd y Fro yn bwrw ymlaen â'r gwaith hwn i lunio strategaeth a gweledigaeth ddrafft a fydd yn cael ei rhannu yn gynnar yn 2024. Bydd cyfnod ymgynghori i sicrhau bod dinasyddion yn cael mwy o gyfleoedd i ddylanwadu ar y strategaeth hon. Bydd hyn yn cael ei gyfleu yn ein cylchlythyr, ar wefan Bwyd y Fro, a thrwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Byddwn yn gweithio'n agos gyda phartneriaid yn y Cyngor, yn y BGC, yn y Bwrdd Iechyd ac mewn mannau eraill i sicrhau bod y gwaith hwn yn cyd-fynd mor agos â phosibl â strategaethau a pholisïau presennol ar draws Bro Morgannwg, megis cynllun Symud Mwy Bwyta'n Dda y Bwrdd Iechyd, cynllun Her Hinsawdd y Cyngor 'Prosiect Sero', ac wrth gwrs Cynllun Lles Bwrdd Iechyd Cyhoeddus y Fro.

Rydym yn gobeithio lansio'r strategaeth wedi'i chymeradwyo yn y gwanwyn nesaf. Bydd y strategaeth yn cael ei chyflawni gan bob partner, a bydd y cynnydd yn cael ei fonitro gan Grŵp Llywio Bwyd y Fro. Bydd Bwyd y Fro yn gofyn am gefnogaeth glir gan bartneriaid allweddol a fydd yn cael eu hannog i gofrestru i gymeradwyo'r strategaeth hon.
Dymuna Bwyd y Fro ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i ymuno â digwyddiad Ein Gorwelion Bwyd, gyda diolch arbennig i'r rhai a gynorthwyodd i’w gynnal, gan gynnwys y siaradwyr, yr arlwywyr, yr hwyluswyr a Chanolfan Gelfyddydau Memo y Barri.
Diolch i'r holl bartneriaid sy'n parhau i gefnogi gwaith partneriaeth Fwyd y Fro gan gynnwys y arlwywyr lleol WildThing a ddarparodd ginio a lluniaeth blasus.
Edrychwn ymlaen at rannu'r strategaeth ddrafft â chi yn 2024