Cost of Living Support Icon

 

Grwp ieuenctid y cyngor wedi i enwebu ar gyfer gwobr genedlaethol

Mae grwp ieuenctid Cyngor Bro Morgannwg wedi cael ei enwebu ar gyfer Gwobr Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid.

 

  • Dydd Gwener, 08 Mis Rhagfyr 2023

    Bro Morgannwg



Mae Ei Llais Cymru yn gweithio gyda Gwasanaeth Ieuenctid y Cyngor ac mae'n cynnwys merched rhwng 13 ac 17 oed o bob rhan o'r Sir.


Roedden nhw eisiau codi ymwybyddiaeth o chwibanu ac aflonyddu rhywiol ymhlith pobl ifanc felly dechreuodd yr #ymgyrchniddimynteimlonddiogel.


Roedd hynny'n golygu cynnal arolwg i'r broblem, cyn i adroddiad gael ei ysgrifennu ac i’w gynnwys gael ei gyflwyno i amrywiaeth o gynulleidfaoedd.


Mae Ei Llais Hi Cymru wedi annerch Arweinydd y Cyngor, Lis Burnett, cyfarfod yn y Senedd a phobl amlwg eraill.

HVW3

Maent hefyd ar fin ymddangos mewn rhaglen ddogfen deledu tair rhan ar S4C.


Bellach mae'r grŵp wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol wrth i'r Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid anrhydeddu cyfraniadau gwaith ieuenctid eithriadol ledled y wlad.


Maent yn cystadlu yng nghategori DRhagoriaeth mewn Cynllunio a Chyflenwi Partneriaeth ar lefel leol, a bydd yr enillwyr yn cael eu gwobrwyo mewn seremoni yn Llandudno fis Chwefror eleni.

Dywedodd y Cynghorydd Ruba Sivagnanam, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ymgysylltu Cymunedol, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoliadol:  "Mae'r gwaith Ei Llais Hi Cymru yn anhygoel o drawiadol. Nid yn unig y mae ei aelodau wedi ymchwilio ac adrodd ar fater difrifol sy'n effeithio ar bobl ifanc, maent hefyd wedi tynnu sylw llunwyr penderfyniadau allweddol.


"Mae hynny'n golygu y gall y fenter hon gael effaith wirioneddol, gan wella diogelwch ar y stryd i bobl ifanc yn y Fro a thu hwnt.


"Rydyn ni eisiau i bawb yn ein cymunedau deimlo'n ddiogel, ac er bod tystiolaeth yn awgrymu bod y rhan fwyaf yn, mae wastad lle i wella.


"Mae aflonyddu rhywiol ymhlith pobl ifanc yn gwbl annerbyniol, ond, yn anffodus, mae'n broblem go iawn sydd angen mynd i'r afael â hi.


"Mae'r menywod ifanc hyn wedi bod yn ddigon dewr i wynebu'r mater hwn yn uniongyrchol, gan feddwl am nifer o awgrymiadau ymarferol i sicrhau newid."

Yn ogystal â rhannu eu canfyddiadau, gweithiodd Ei Llais Hi Cymru gyda dylunydd lleol i greu posteri. Roedd y gwaith celf yn annog pobl ifanc i roi gwybod am achosion o aflonyddu ac egluro sut i wneud hynny.


Mae'r grŵp wedi gofyn i bobl wneud addewid i roi cyhoeddusrwydd i'r mater hwn a chynnig awgrymiadau i wella'r sefyllfa, gan gynnwys creu Mannau Diogel.


Mae'r fenter hon yn cynnwys gofyn i fusnesau ledled y Fro arddangos sticer yn eu ffenestr sy'n dangos bod hwn yn lle diogel i fynd iddo.


Pan fydd person ifanc yn teimlo'n agored i niwed, gall ddefnyddio'r man hwn fel lloches.