Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn datgelu Strategaeth Coe

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cymeradwyo cynlluniau i gynyddu nifer y coed yn y Sir.

 

  • Dydd Mercher, 06 Mis Rhagfyr 2023

    Bro Morgannwg



Cafodd Strategaeth Coed newydd ei hystyried gan Gabinet yr Awdurdod yr wythnos hon a bydd nawr yn destun ymgynghoriad cyhoeddus.


Mae'r strategaeth yn cynnwys ymgyrch i wella gorchudd coed ar dir y Cyngor - yr ardal a gysgodir gan ganghennau - gan bump y cant dros y 15 mlynedd nesaf.


Mae hyn yn rhan o Brosiect Sero, cynllun y Cyngor i fod yn garbon niwtral erbyn 2030, a bydd yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth â thirfeddianwyr lleol a grwpiau cadwraeth.

CivicDwedodd y Cynghorydd Mark Wilson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladau:  "Mae'r Cyngor wedi datgan argyfwng hinsawdd a natur yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r heriau sylweddol hyn.


"I'r perwyl hwnnw, gwnaethom lansio Prosiect Sero yn 2021 i dorri yn ôl yn sylweddol ar allyriadau CO2 cyn diwedd y degawd.


"Mae plannu coed ac ailwylltio yn elfennau pwysig o'r fenter honno. Rydym eisoes wedi dechrau creu dolydd i gynyddu bioamrywiaeth yn y Fro, nawr mae'r strategaeth hon yn nodi ein cynlluniau ynghylch gorchudd coed.


"Bydd y Bartneriaeth Natur Leol a grwpiau eraill yn chwarae rhan bwysig yn llwyddiant y strategaeth hon, a byddwn hefyd yn dibynnu ar gefnogaeth gan dirfeddianwyr preifat.


"Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â'r cynigion hyn yn cychwyn yn fuan a byddwn yn annog pob parti sydd â diddordeb i rannu eu barn."

Gallwch ffeindio manylion am sut i gymryd rhan yn yr ymarfer ymgysylltu yma cymrydrhan.valeofglamorgan.gov.uk/strategaeth-goed