Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn ffurfio band i hybu iechyd meddwl

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn defnyddio pŵer iacháu cerddoriaeth i helpu pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol.

 

  • Dydd Mawrth, 19 Mis Rhagfyr 2023

    Bro Morgannwg



The Whole Band 3IMewn partneriaeth ag ystod o unigolion ac asiantaethau eraill, mae Tîm Cymorth Iechyd Meddwl Cymunedol yr Awdurdod wedi dod â thri o'r bobl y maent yn gweithio gyda nhw ynghyd i ffurfio band.

 

Yn ddiweddar, chwaraeodd y grŵp, sydd i gyd yn dioddef gyda phroblemau sy'n effeithio ar eu hyder mewn lleoliadau cymdeithasol, eu gig byw cyntaf mewn seremoni wobrwyo i Vale Madrid, tîm pêl-droed a grëwyd i helpu eraill sydd â brwydrau iechyd meddwl.

 

Anthony Jones sy’n chwarae'r gitâr drydan, Ray Maylin sydd ar y gitâr acwstig, tra bod Max Brookes yn brif leisydd.

 

Yn ymuno â nhw ar y llwyfan mae Mike Fulthorpe, sy'n gweithio i Breathe Creative CIC, cwmni sy'n hyrwyddo iechyd meddwl a lles drwy weithgareddau sy'n gysylltiedig â cherddoriaeth, celf, drama ac ysgrifennu.

 

Cynhaliwyd y gig yn Bar 96 ar Stryd Fawr y Barri, sy'n eiddo i James Bagnal, un arall sydd wedi cynorthwyo gyda'r prosiect trwy adael i'r band, sydd dal heb benderfynu ar enw, ddefnyddio ei ofod am ddim.

 

Roedd eu rhestr caneuon yn cynnwys hanner dwsin o draciau indie o'r 90au gan gwmpasu bandiau fel Radiohead, Pearl Jam, REM a'r Cranberries.

 

Mae Dave McDonald hefyd wedi cefnogi'r prosiect, gan gynnig ei arbenigedd, ynghyd â'r Cardiff Evolution Studio y mae'n berchen arno, yn ddi-dâl i helpu'r band recordio trac sengl 'Hope'.

 

Mae hefyd yn cynnig cyfle gwirfoddoli i Max, gan ganiatáu iddo ennill profiad ym myd cerddoriaeth a'r cyfryngau.

 

Max Sing Ray On Guitar 2"Mae hyn wedi fy helpu gymaint gyda fy hyder," meddai Max. 

 

"Dwi wastad wedi mwynhau ysgrifennu cerddoriaeth, ond mae wastad wedi bod tu ôl i ddrysau caeedig.  Ers i mi ymuno â'r grŵp yma, dwi wedi bod lot mwy agored gyda chanu o flaen pobl.  Mae fy nghariad wedi clywed llawer gen i ac mae fy mam wedi clywed llawer mwy gen i.

 

"Roedd perfformio'n fyw yn gam mawr - dwi erioed wedi gwneud hynny o'r blaen.  Nawr rydw i wedi gwneud hynny, rwy'n gwybod y gallaf fynd allan a'i wneud mewn mannau eraill. 

 

"Wrth fynd i'r stiwdio, rwyf wedi cwrdd â Dave ac mae wedi trefnu i mi wirfoddoli a helpu gydag ychydig o bethau y mae'n eu gwneud yno.

 

"Mae'r prosiect hwn wedi fy helpu i symud ymlaen trwy agor llawer o ddrysau nad oeddwn yn gwybod eu bod yno.  Cyn i mi ddechrau'r grŵp cerddoriaeth hwn, roeddwn i’n berson caeedig iawn.  Mae hyn wedi fy agor lawer mwy.

 

"Unrhyw beth sy'n ymwneud â cherddoriaeth y galla i ei droi yn yrfa, ‘rwy am roi cynnig arno.  Dyna fy nghynllun i.

 

"Y rheswm rydw i gyda'r Tîm Iechyd Meddwl yn y lle cyntaf yw fy mod i'n ei chael hi mor anodd ymroi i bethau sy'n anodd ac yn drafferthus oherwydd bod yr holl bryderon a'r ofnau hyn gen i.

 

"Dwi'n panicio, yn dweud 'na, alla i ddim' ac wedyn jyst cau lawr.

 

"Yn dod i chwarae'r gig, roeddwn i'n bryderus, ond cyn gynted ag y byddwn ni'n dechrau chwarae, roeddwn i yn rhywle arall ac roeddwn i'n iawn eto.

 

"Os yw'r band yn peidio ar y pwynt yma, mae'n iawn, ond hoffwn i ni barhau fel grŵp ac efallai dod â mwy o bobl i mewn.

 

"Byddai'n wych cael mwy o bobl yn rhannu eu profiadau a’u teimladau cerddorol am fod cerddoriaeth yn therapi gwych - mae'n ffordd dda o fynegi eich emosiynau."

Mae Gweithiwr Cymorth Cymunedol y Cyngor, Geri Goddard, wedi bod yn un o'r grymoedd y tu ôl i'r prosiect.

 

Dan reolaeth Gareth Newberry, mae'r tîm yn cefnogi unigolion sy'n byw yn y Fro sydd wedi cael eu hatgyfeirio am gymorth gyda'u hadferiad iechyd meddwl.

 

Maent yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr Iechyd Meddwl Bro Morgannwg, grŵp integredig o weithwyr iechyd, staff yr Awdurdod Lleol, nyrsys, meddygon, gweithwyr cymdeithasol a seicolegwyr.

"Pan ddechreuon ni, fe wnaethon ni gasglu'r bois a dod â nhw i ystafell ymarfer a siaradodd, roedd pennau pawb i lawr," meddai Geri.

 

"Wedyn siaradodd Mike o Breathe Creative am reolau tŷ, ychydig am gyfrinachedd ac wedyn fe rannon ni i gyd rai o’n profiadau personol a dechrau dod i adnabod ein gilydd. Roeddem i gyd yn deall ac yn parchu ein gilydd.

 

"Ar y dechrau byddai Max yn eistedd yno yn y gornel gyda'i gwfwl i fyny, doedd dim cyswllt llygaid a fydde fe’n bendant ddim yn canu. Wedyn fesul wythnos, roeddech chi’n ei weld yn tyfu. Roeddech chi'n gweld yr hyder yn datblygu.

 

"Byddai mam Max yn fy nhecstio pan gyrhaeddai adref ac yn dweud 'beth ydych chi wedi'i wneud gydag e? Fe ddeffrodd y bore 'ma mor isel a nawr mae mor hapus ag y mae wedi bod ers amser maith.'

 

"Mae'r un peth yn wir am Ray.  Roedd e wir eisiau dod fel Anthony hefyd. Roedd yn lle diogel i bawb fod ynddo a bod yn greadigol.  Yn sicr, rwy’ wedi gweld gwahaniaeth mawr ym mhob un ohonynt.

 

"Mae cerddoriaeth yn beth mor enfawr ym mywydau pobl, p'un a ydyn nhw'n hapus, yn drist, ar i lawr neu ar i fyny. Mae'n rhywbeth y gallwch droi ato.

 

"Mae pobl yn cofio lle roedden nhw pan glywson nhw gân arbennig. Gall eich cludo o ddiwrnod du i le gwell, i adeg hapus penodol yn eich bywyd os yw'n gân rydych chi'n ei charu."

Vale Madrid TrophiesAr ddiwrnod sioe gyntaf y band, roedd Vale Madrid yn dathlu pencampwriaeth eu cynghrair.

 

Yn ogystal â chystadlu yng Nghynghrair Hŷn Bro Morgannwg, mae Vale Madrid hefyd yn chwarae yn erbyn timau eraill sydd a phroblemau iechyd meddwl o bob cwr o Gymru a gorffennwyd y gyfres honno o gemau ar frig y tabl.

 

Mae'r llwyddiant a gyflawnwyd yn y ddau weithgaredd gwahanol iawn yma yn dangos cwmpas y gwaith sy'n digwydd i helpu pobl i oresgyn anawsterau iechyd meddwl yn y Fro.

"Gofynnwyd i ni a oedden ni eisiau cymryd rhan mewn modd cerddorol oherwydd nad oes yr un ohonom â diddordeb mewn therapi celf mwy traddodiadol. Alla i ddim dal brwsh paent, heb sôn am baentio," meddai Anthony.

 

Anthony On Guitar Mike on Bass 2

"Dim ond syniad a gyflwynwyd gan rai o'n gweithwyr cymorth oedd hwn.  Rwy'n credu eu bod wedi dod o hyd i gyllid iddo fynd ymlaen ar sail arbrawf ac mae wedi bod yn llwyddiannus iawn.

 

"Ges i wersi piano yn blentyn, canu mewn corau ac wedi bod mewn bandiau eraill dros y blynyddoedd. Rwy’ hefyd yn cynhyrchu cerddoriaeth trance gartref ar hyn o bryd.

 

"Rwy'n dioddef o orbryder cymdeithasol difrifol ac am yr ychydig sesiynau cyntaf yr es i draw iddynt do’n i ddim yn gyfforddus. Roedd yn fy ngwneud i'n eithaf sâl am ddiwrnod neu ddau wedyn.

 

"Ond dros y 12 wythnos diwethaf, mae wedi dod yn rhywbeth y gallaf fynd iddo wedi ymlacio. Mae wedi fy helpu'n aruthrol o ran mynd allan a bod o gwmpas pobl dwi ddim yn eu hadnabod mor dda â hynny."

Wedi'i wneud yn bosibl trwy gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru, y Loteri Genedlaethol, cefnogaeth gan unigolion allweddol a'i drefnu gan Breathe Creative, y nod nawr yw adeiladu ar y bartneriaeth ac ehangu'r rhaglen.

 

Bydd hynny'n golygu sicrhau mwy o gyllid, her y mae staff y Cyngor eisoes yn ei derbyn.

Bu sôn hefyd am agor Bar 96 fel man iechyd meddwl sy'n cynnig sesiynau 'coffi a jamio'.

"I mi, mae'n anhygoel bod y band wedi dod o hyd i rywbeth y gallant deimlo sy’n cael ei werthfawrogi" meddai Linda Woodley, Rheolwr Gweithredol y Cyngor ar gyfer Gwasanaethau Oedolion.

 

"Mae'r tîm wedi manteisio ar gryfderau pobl i'w helpu i dyfu a datblygu.  Maen nhw wedi gwella eu hiechyd meddwl tra'n cael amser da.

 

"Rydyn ni wir eisiau cadw hyn i fynd.  Bydd yn rhaid i ni chwilio am gyllid ond o ystyried y canlyniadau rydym wedi'u gweld a'r newid cadarnhaol i bobl, rwy'n mawr obeithio y daw hynny i fod.

 

"Dwi wedi siarad gydag aelodau'r band ac wedi clywed canmoliaeth gan rieni. Maen nhw wedi dweud bod y newid maen nhw wedi'i weld yn ystod yr amser mae'r grŵp hwn wedi bod ynghyd wedi bod yn fwy nag y maen nhw wedi'i weld ers blynyddoedd. Maen nhw'n ddiolchgar iawn am hynny. 

 

"Mae hwn yn hysbyseb gwych ar gyfer sut y gall cydweithio fod yn llwyddiannus.  Weithiau dwi’n credu fod y pethau bach yn helpu pethau mawr i dyfu. Mae'n wych bod y partneriaethau cymunedol hyn gyda Bar 96 wedi datblygu ynghyd â'r cysylltiadau cryf sydd wedi'u meithrin gyda Breathe Creative.

 

"Mae amseroedd yn anodd o ran dod o hyd i adnoddau ac arian, ond rwy'n credu os yw hyn yn atal pobl rhag mynd yn sâl a bod ag angen cymorth mwy dwys, mae'n cyd-fynd â phopeth y dylem fod yn ei wneud o dan Ddeddf Llesiant y Gwasanaethau Cymdeithasol ac egwyddorion Llywodraeth Cymru - gan roi'r help sydd ei angen ar bobl yn gynnar iddynt fel nad oes angen cymorth mwy dwys arnynt yn nes ymlaen.

 

"Os ydych chi'n meddwl am y chwaraewyr pêl-droed - maen nhw i gyd wedi bod allan yn cyfranogi mewn chwaraeon, cadw'n heini, gan helpu eu llesiant.

 

"Pe na byddai hynny yno, y risg yw eu bod yn mynd yn fwy ynysig yn gymdeithasol a’u hiechyd meddwl yn dirywio. Mae'r mentrau hyn yn hanfodol i helpu pobl i gadw'n iach yn eu cymunedau." 

The Whole Band 2

Wrth i broses osod cyllideb y Cyngor barhau yn erbyn cefndir heriol costau cynyddol a lleihau cyllid, mae diogelu aelodau mwyaf agored i niwed y gymuned yn parhau i fod yn flaenoriaeth lwyr.

 

Mae'r Awdurdod wedi ei gwneud yn glir y bydd popeth posibl yn cael ei wneud i gynnal gwasanaethau ar gyfer y trigolion hynny sydd â’r angen mwyaf.

"Mae hyn yn rhoi gobaith i bobl, rhoi hunan-gred iddynt y gallant wneud rhywbeth gyda'u bywydau," ychwanegodd Max.

 

"Mae wedi profi i mi fod 'na bobl sy'n malio, pobl sy'n trio helpu. 

 

"Mae gweld hynny wedi tanio gwreichionen newydd ynof i a mwy o ffydd yn y byd oherwydd, cyn hynny, dyna roeddwn i wir yn ymrafael ag e."