Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn helpu i greu canolfan gymunedol

Mae Neuadd Bentref Aberogwr bellach yn ganolbwynt llewyrchus i'r gymuned yn dilyn prosiect ar y cyd rhwng Cyngor Bro Morgannwg a Chymdeithas Neuadd Bentref Aberogwr.

 

  • Dydd Gwener, 22 Mis Rhagfyr 2023

    Bro Morgannwg



Ogmore Village Hall  OverviewMae'r cynllun adfywio gwerth £600,000 wedi gweld yr hen floc toiledau ar dir agored ger Slon Lane yn cael ei ailddatblygu'n gyfleuster sydd ar gael ar gyfer amrywiaeth eang o ddefnyddiau.

 

Trosglwyddwyd y tir hwnnw o berchnogaeth y Cyngor er mwyn helpu i gyflawni'r prosiect, a ariannwyd drwy amrywiaeth o ffynonellau.

 

Roedd y rhain yn cynnwys arian a godwyd gan y pentrefwyr, grantiau gan y Loteri Fawr, Sefydliad Moondance, Cwmni Moduron Ford a Chyngor Cymunedol Saint-y-brid, grant gan Lywodraeth Cymru, cyllid CDRhE yr UE (cyn Brexit), cyfraniadau Adran 106 a sicrhawyd gan y Cyngor o ddatblygiadau tai cyfagos a mewnbwn gan amrywiol noddwyr lleol.

 

View From Balcony Facing Tusker Rock

Mae'r neuadd yn cynnig gofod mawr ar gyfer amrywiaeth o ddosbarthiadau rheolaidd a llogi preifat. Mae'r rhain wedi cynnwys dosbarthiadau cyfannol ac actif yn ogystal â phartïon pen-blwydd, seremonïau priodas, derbyniadau, partïon bedydd, gwylnosau, enciliadau, gweithdai a digwyddiadau cymunedol.

 

Mae'n eistedd o fewn man agored gwyrdd wedi'i dirlunio sy'n cynnwys ardal chwarae, wedi'i gwneud o ddeunyddiau modern ac mae'n cynnwys ffenestri to mawr i’r nenfwd gyda golygfeydd ysblennydd o'r môr, yn enwedig o'r Ardal Deras allanol.

 

Mae'r adeilad hefyd yn cynnwys caffi sy'n cael ei weithredu gan y Welsh Coffee Company.

Main Hall Evening Meal Custom Seating Ogmore Village HallDwedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Rwy'n falch iawn bod y prosiect hir-ddisgwyliedig hwn wedi dwyn ffrwyth o'r diwedd.  Mae trigolion wedi bod yn gofyn am neuadd bentref ers peth amser a nawr mae'r freuddwyd honno wedi dod yn realiti.  Mae hynny'n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd cymuned a'r Cyngor yn gweithio gyda'i gilydd i ysgogi newid.

 

"Mae'r neuadd ei hun yn cynnig cyfleusterau gwych ar gyfer digwyddiadau a dosbarthiadau neu dim ond lle tawel i fwynhau golygfeydd anhygoel ar hyd yr Arfordir Treftadaeth.

 

“Rwy’n gwybod bod y gymuned wedi gweithio’n hynod galed i wireddu’r prosiect hwn ac maen nhw’n haeddu clod mawr am hynny.”

Dwedodd Ymddiriedolwyr Cymdeithas Neuadd Bentref Aberogwr: "Rydym wrth ein bodd bod ymdrechion llawer o'n trigolion dros y 40 mlynedd diwethaf wedi dwyn ffrwyth ac rydym wedi gallu darparu lleoliad gwych sy'n cael ei ddefnyddio bob dydd ac sy'n darparu cyfleuster i bawb yn ein cymuned."