Cost of Living Support Icon

 

Mae digwyddiad Syn Dda i Bobl Hyn yn dod a chymunedau o breswylwyr oedrannus ledled y Fro at ei gilydd

 

Mae digwyddiad a gynhaliwyd gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi dod â phobl hŷn o bob rhan o’r Fro ynghyd i fwynhau areithiau, cerddoriaeth fyw ac amrywiaeth o gyfleoedd rhwydweithio.

 

  • Dydd Iau, 14 Mis Rhagfyr 2023

    Bro Morgannwg


 

 

Ar 6 Rhagfyr daeth Tîm y Fro Sy'n Dda i Bobl Hŷn, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots, partneriaid lleol a rhanddeiliaid gan gynnwys aelodau'r cyhoedd at ei gilydd i ddathlu'r Fro yn ymuno â Rhwydwaith yr WHO yng Nghanolfan Gymunedol CF61 yn Llanilltud Fawr.  Diolch i Wasanaeth Trafnidiaeth Gymunedol Greenlinks y Cyngor a’r SCCH Rhiannon Cummings, roedd preswylwyr o gynllun tai gwarchod lleol ymhlith y bobl oedd yn gallu cymryd rhan a mwynhau digwyddiadau'r prynhawn. 

 

 

Bu’r gwesteion yn mwynhau perfformiad bywiog gan y Llantwit Major Bethel Ukulele Band, Carolau Nadolig gan Bencampwyr Cymunedol Ysgol y Ddraig a JOY-reidiau am ddim ar fwrdd Cariad y trishaw trwy garedigrwydd gwirfoddolwyr Cycling Without Age.

 

Cynhaliwyd y digwyddiad gan Gadeirydd y BGC ac Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, Lis Burnett, a ddywedodd: “Mae bod ‘yn dda i bobl hŷn’ yn golygu bod pobl o bob oed sy'n byw ac yn gweithio yn y Fro yn cael y cyfle i heneiddio'n dda a chymryd rhan weithredol yn eu cymuned.

 

"Mae unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yn cael effaith ddifrifol ar ein hiechyd meddwl ac ansawdd ein bywydau ac mae digwyddiadau fel hyn yn allweddol wrth ddod â phobl ynghyd i gyfathrebu a mwynhau eu hunain.

 

"Felly mae'n wych gweld amrywiaeth o bobl a phartneriaid yma heddiw, yn enwedig ein pobl hŷn a fydd yn gyfryngau newid pwysig wrth i ni barhau i weithio gyda'n gilydd."

 

Ym mis Hydref 2023 derbyniodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Bro Morgannwg newyddion mai hwn oedd y bedwaredd ardal awdurdod lleol yng Nghymru i ymuno â Rhwydwaith Byd-eang Dinasoedd a Chymunedau Sy'n Dda i Bobl Hŷn Sefydliad Iechyd y Byd.

 

Mae derbyn i'r rhwydwaith yn gydnabyddiaeth o uchelgeisiau'r BGC a'i ymrwymiad i Fro Sy'n Dda i Bobl Hŷn lle mae pawb, yn enwedig pobl hŷn, yn cael y cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i heneiddio'n dda.

 

Mae'r statws yn adlewyrchu'r gwaith caled sydd eisoes ar y gweill yn y Fro gan gynnwys sefydlu Rhwydwaith y Fro sy'n Dda i Bobl Hŷn, grŵp o bartneriaid, aelodau cymunedau a phobl hŷn sy'n gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu Cynllun Gweithredu drafft i’r Fro sy’n Dda i Bobl Hŷn ac adeiladu ar Siarter y Fro sy'n Dda i Bobl Hŷn a ddatblygwyd yn gynharach yn y flwyddyn.

 

Yn ogystal â'r gwaith strategol, mae Swyddog Sy'n Dda i Bobl Hŷn y Fro wedi creu cysylltiadau cymunedol cryf sydd wedi arwain at gefnogi a sefydlu amrywiaeth o weithgareddau lleol. Mae'r rhain yn cynnwys ffurfio 'Cerddwyr Sain Tathan' a ddatblygwyd mewn partneriaeth â grŵp trydydd sector lleol 'Valeways' a Thîm Byw'n Iach Cyngor y Fro. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Belinda Loveluck-Edwards, Hyrwyddwr Pobl Hŷn, "Heddiw, rydym yn dathlu popeth yr ydym wedi ymgyrchu drosto a’i ennill wrth gydnabod bod Awdurdod sy'n Dda i Bobl Hŷn yn awdurdod iachach, hapusach a mwy cytbwys.

 

"Fel Hyrwyddwr Pobl Hŷn, rwyf mor falch o waith y tîm sydd wedi gweithio'n galed i sicrhau statws Sy'n Dda i Bobl Hŷn.

 

"Rwy'n cydnabod, fel Hyrwyddwr, mai dyma ddechrau ein taith a gyda'ch cymorth a'ch cefnogaeth barhaus chi y gallwn ddod â'r holl enfys o breswylwyr sy'n byw ac yn gweithio yn y Fro ynghyd.

 

"Rydyn ni'n rhannu nod cyffredin o fyw heb ofn, gan deimlo ein bod yn cael ein gwerthfawrogi a’n bod yn rhan o gymuned sy'n gofalu am bawb, p'un a ydych chi'n 7 neu'n 70 oed."

 

Yn dilyn y digwyddiad, dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots, "Mae wedi bod yn brynhawn arbennig yma, gyda llawer o ddathlu, rhannu syniadau a gwybodaeth ac ysbryd go iawn o lawenydd Nadolig."

 

Mae gan y Fro 56,200 o bobl 50 oed a hŷn sy'n cyfrif am 46% o'i phoblogaeth. Rhagwelir y bydd y ffigur hwn yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn yn unol â gweddill Cymru.

 

Mae gweithio gyda'n gilydd i gefnogi ein poblogaeth sy'n heneiddio wrth iddi barhau i dyfu, trwy gyfleoedd fel hyn lle gall pobl leol a phartneriaid gysylltu â’i gilydd, yn hanfodol. Nid yw'n rhywbeth y gall unrhyw un ohonom ei wneud ar ein pennau ein hunain.

 

Dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd Tîm y Fro Sy'n Dda i Bobl Hŷn yn parhau i ddarparu rhaglen o weithgareddau ymgysylltu i lywio Cynllun Gweithredu drafft y Fro sy'n Dda i Bobl Hŷn.

 

Hoffai'r tîm siarad ag unrhyw un sydd â diddordeb mewn heneiddio'n dda, yn enwedig aelodau o'r gymuned 50+ oed. I gymryd rhan yn y gweithgaredd hwn ac i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd, ewch i gyfrif Twitterr y BGC neu ei dudalen we, e-bostiwch PSB@valeofglamorgan.gov.uk neu ffoniwch 01446 70011 / 709391.