Cost of Living Support Icon

 

Prosiect tai fforddiadwy yn mynd rhagddo ar ôl i'r Cyngor ennill achos llys

Gall cynlluniau ar gyfer datblygiad tai fforddiadwy yn y Bont-faen symud ymlaen wedi adolygiad barnwrol a ddyfarnwyd o blaid Cyngor Bro Morgannwg.

  • Dydd Gwener, 22 Mis Rhagfyr 2023

    Bro Morgannwg



Ym mis Rhagfyr 2022, cymeradwyodd y Cyngor gynigion gan gymdeithas Tai Hafod ar gyfer dymchwel hen adeilad Ysgol Gyfun y Bont-faen ar Aberthin Road a'i ddisodli gan 34 o dai fforddiadwy – 30 o fflatiau a phedwar tŷ.

 

Roedd grŵp lleol yn gwrthwynebu'r cynllun ar y sail nad oedd gwaith papur yn ymwneud â draefnio wedi'i gwblhau ac nad oedd mesurau i ddiogelu ystlumod mewn lle.

 

Ond mewn gwrandawiad yng Nghaerdydd, gwrthododd Ei Anrhydedd y Barnwr Andrew Keyser KC y ddwy her hynny a gorchymyn i'r Cyngor gael £7,500 mewn costau, yr uchafswm y gellir ei ddyfarnu mewn achosion o'r fath.

Cllr Bronwen BrooksDwedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Aelod Cabinet Bro Morgannwg dros Leoedd Cynaliadwy:  "Rwy'n falch iawn o'r dyfarniad hwn sy'n golygu y gall Tai Hafod fwrw ymlaen â chynlluniau i ddod â chartrefi fforddiadwy newydd i'r Bont-faen.

 

"Mae angen eiddo o'r math hwn yn fawr yn yr ardal fel y mae rhestr aros tai y Cyngor ei hun yn dangos.

 

"Byddant yn cynnig lleoedd modern diogel i unigolion, cyplau a theuluoedd fyw a dychwelyd i ddefnydd y gofod a oedd gynt yn adfeiliedig.

 

"Rwy'n gobeithio y bydd y dyfarniad hwn yn anfon neges y bydd y Cyngor yn amddiffyn ei benderfyniadau yn gadarn ac yn glynu'n gadarn wrth gynlluniau sydd o fudd i breswylwyr a'n cymunedau."

Yn ogystal â'r eiddo, bydd y datblygiad yn cynnwys parcio, tirlunio a chlwyd ystlumod pwrpasol.

 

Dywedodd Simon Mellor, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid, Buddsoddiadau a Datblygu: "Rydym yn falch o allu symud ymlaen gyda'n cynlluniau i ddod â 34 o gartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel i'r Bont-faen.

 

"Fel darparwr tai, rydym yn canolbwyntio nid yn unig ar yr amgylchedd adeiledig, ond yn rhoi sylw cyfartal i ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Rydym yn ymfalchïo mewn adeiladu cartrefi sy'n helpu i lunio cymunedau bywiog a chefnogi iechyd a lles ein cwsmeriaid.

 

"Bydd y penderfyniad hwn yn ein galluogi i ddarparu'r cartrefi y mae mawr eu hangen, gan ein helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng tai yng Nghymru."