Cost of Living Support Icon

 

Mae'r Cyngor yn ymuno â'r Rhwydwaith Cenedlaethol Lleoedd Diogel

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn recriwtio lleoliadau ar draws y Sir i ymuno â rhwydwaith o Leoedd Diogel.

  • Dydd Mercher, 30 Mis Awst 2023

    Bro Morgannwg



welsh english safe place logoYn dilyn ymchwiliad gan grŵp ymgyrchu Gwasanaeth Ieuenctid y Fro, Her Voice Wales, mae'r Sir bellach i’w gweld ar fap cenedlaethol o Leoedd Diogel. Ar ôl clywed am gyflwyno'r Cynllun Mannau Diogel yn llwyddiannus mewn awdurdod cyfagos, aeth y grŵp ati i sgwrsio â thîm Diogelwch Cymunedol y Cyngor ynghylch cofrestru’r Fro.

 

Mae'r Ap Safe Places yn rhad ac am ddim y gall aelodau o'r cyhoedd ei ddefnyddio pan fyddant allan er mwyn chwilio am leoliad cyfagos y gallant fynd iddo i chwilio am help, lloches neu i weld wyneb cyfeillgar.

 

Bydd lleoliadau hefyd yn derbyn sticer Mannau Diogel i'w osod ar eu ffenestr neu ddrws fel y gellir eu hadnabod gan bobl sy'n mynd heibio.

 

Mae croeso i fusnesau'r Fro a chyfleusterau cymunedol gofrestru eu diddordeb mewn bod yn Fan Diogel a dylent e-bostio safervale@valeofglamorgan.gov.uk am fwy o wybodaeth.

 

Gellir lawrlwytho'r Ap Safe Places o siop Apple neu Google Play: https://www.safeplaces.org.uk/apps/

 

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Yn dilyn llwyddiant y cynllun mewn mannau eraill yn y Deyrnas Gyfunol, rwy'n falch iawn o weld y Cynllun Lleoedd Diogel yn cael ei gyflwyno yn y Fro.

 

"Bydd cael mynediad hawdd i restr o leoliadau y gallwch ymweld â nhw os ydych chi'n teimlo'n bryderus, yn ofnus neu mewn perygl tra byddwch allan yn mynd gryn dipyn o’r ffordd i dawelu meddyliau trigolion o bob oed.

 

"Wrth i ni ddathlu lansio'r cynllun, mae'n rhaid i ni gydnabod gwaith caled ac angerddol grŵp Her Voice Wales - rwy'n gobeithio eu bod yn teimlo'n falch iawn o'r hyn maen nhw wedi'i gyflawni.

 

"Hoffwn ddiolch hefyd i gydweithwyr o’n tîm Diogelwch Cymunedol am oruchwylio recriwtio, a chynnal a chadw'r lleoliadau.

 

"Mae ymuno â'r cynllun yn ffordd wych o ddangos eich cefnogaeth i'r gymuned ac felly rwy'n annog unrhyw fusnesau a chyfleusterau cymunedol sydd â diddordeb i gofrestru."