Cost of Living Support Icon

 

Staff, Disgyblion a Rhieni o Ysgol Maes-Y-Coed yn dathlu aduniad 65 mlynedd yng Nghanolfan Dechrau'n Deg y Fro

Ym 1959, agorodd Ysgol Maes-y-Coed ei drysau gyntaf i ddarparu addysg a chymorth i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. 65 mlynedd yn ddiweddarach, ymgasglodd cyn-staff, disgyblion a rhieni plant a fynychodd yr ysgol ar gyfer aduniad.

 

  • Dydd Gwener, 18 Mis Awst 2023

    Bro Morgannwg



Staff who worked at Maes Y CoedRoedd Maes-y-Coed yn un o’r ychydig ysgolion ar y pryd a oedd yn cynnig addysg arbenigol i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Am ddegawdau roedd athrawon a staff yn cynorthwyo disgyblion a'u teuluoedd gan fod llawer wedi parhau i gadw mewn cysylltiad dros y blynyddoedd.

 

Roedd gan yr ysgol nifer o gyfleusterau unigryw fel pwll synhwyraidd ac mewn partneriaeth â Hostel y Barri lle'r oedd nifer o ddisgyblion yn byw'n llawn amser ac yn derbyn gofal gan staff ymroddedig a oedd hefyd yn bresennol yn yr aduniad.

 

Er i'r ysgol gau yn dilyn datblygiad ysgolion addysg arbenigol mwy yn y Fro, mae'r adeilad - sydd wedi'i leoli ar Heol Gladstone - wedi trawsnewid i Ganolfan Dechrau'n Deg y Fro ers hynny sy'n cynnig sesiynau gofal plant a sgiliau cyfrwng Cymraeg a Saesneg, sesiynau chwarae a datblygu, a dosbarthiadau rhianta.

 

Maes Y Coed Reunion at Flying Start Centre 2023Dywedodd Barbara Milhuisen (Jenkins), Pennaeth: "Rwyf wedi cadw mewn cysylltiad â llawer o bobl y bûm yn gweithio gyda nhw dros y blynyddoedd, yn ogystal â chyn-ddisgyblion a rhieni. Ond roedd cael cymaint ohonom gyda'n gilydd ar safle'r hen ysgol yn rhywbeth arbennig. 

 

"Daeth â llawer o atgofion hapus yn ôl o'n hamser ym Maes-y-Coed ac i weld sut mae'r adeilad wedi newid dros y blynyddoedd.

 

"Hoffwn ddiolch i Kathryn a'i thîm yn Dechrau'n Deg am ein lletya, a fy ffrindiau a'm cydweithwyr am ddathlu gyda mi."

 

Dywedodd Kathryn Clarke, Rheolwr Canolfan Dechrau'n Deg:  "Roedd hi'n gymaint o bleser gallu cynnal yr aduniad yn Dechrau'n Deg.

 

"Roedd dysgu hanes yr adeilad a chlywed straeon y staff yn dangos pa gefnogaeth anhygoel roedden nhw'n ei chynnig i drigolion lleol a'r cyfeillgarwch maen nhw wedi'i gynnal dros y blynyddoedd hyn.

 

"Nawr, mae'r adeilad yn parhau i gefnogi'r gymuned, gan gynnig ystod o gyfleoedd dysgu, datblygu a chwarae i deuluoedd a phlant ifanc."

Agorodd y Ganolfan Dechrau'n Deg gyntaf yn 2012 ac mae'n cynnig cymorth hanfodol i deuluoedd yn ystod blynyddoedd cynnar datblygiad plant. Mae eu cyfleusterau'n cynnwys crèches, gofal plant i blant 2-3 oed, ystafell glinig ar gyfer materion cynenedigol a gofal iechyd, mynediad at gefnogaeth magu plant a grwpiau dysgu oedolion.  

 

Yn fwy diweddar, agorodd y Ganolfan Dechrau'n Deg hefyd ardd Lles Cymunedol sy'n cynnig cyfle i blant ddysgu am fyd natur a rhoi cynnig ar arddio. Bydd yr ardd hefyd yn cael ei defnyddio ar gyfer grwpiau Lles i rieni a'r gymuned. 

Dywedodd y Cynghorydd Eddie Williams, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: "Roedd hi'n fraint cael fy ngwahodd i aduniad Maes-Y-Coed yng Nghanolfan Dechrau'n Deg.

 

"Roedd gwrando ar atgofion o'r gorffennol a dal i fyny gydag aelodau'r gymuned yn dangos pa mor effeithiol oedd y gwaith a wnaeth staff Maes-y-coed ar y teuluoedd y buont yn gweithio gyda nhw.

 

"Cafodd y Tîm Dechrau'n Deg gyfle hefyd i siarad am y gwaith maen nhw'n ei wneud i drigolion y Fro - er y gallai'r adeilad fod wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd, mae'n parhau i fod yn ganolbwynt allweddol o gefnogaeth i blant a theuluoedd yn y gymuned leol."