Gwaith mawr ar Ysgol Y Deri yn y Bari
Mae gwaith gwella mawr ar y gweill wrth i Gyngor Bro Morgannwg baratoi hen safle Ysgol Gynradd Sant Baruc ar gyfer disgyblion Ysgol Y Deri.
Bydd tua 60 o ddisgyblion a staff yn cael eu lleoli ar y safle o fis Medi ymlaen.
Mesur dros dro yw hwn tra bod campws pwrpasol newydd, a elwir yn Ysgol y Deri 2, yn cael ei ddatblygu yn Cosmeston, ger Penarth.
Mae gwaith adnewyddu sylweddol yn cael ei wneud i sicrhau bod Ysgol Y Deri yn y Bari yn barod ar gyfer y tymor ysgol newydd.
Mae hyn yn cynnwys:
• Creu prif dderbynfa a mynedfa newydd â mynediad ramp.
• Gosod system teledu cylch cyfyng.
• Cuddio’r holl reiddiaduron a phibellau lefel isel.
• Amnewid yr holl doiledau a’r ciwbiclau.
• Gosod cegin newydd.
• Cyflwyno system reoli mynediad i'r adeilad.
• Codi ffens newydd.
• Addurno a lloriau newydd drwyddi draw.
• Gosod landeri newydd.
• Creu chwe ystafell ddosbarth, ystafell ymneilltuo ac ystafell technoleg bwyd.
Dwedodd Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg, y Cyng Rhiannon Birch: "Gydag Ysgol y Deri wedi ei gordanysgrifio, bydd yr adeilad hwn yn helpu i gefnogi disgyblion tra bod safle newydd, parhaol yn cael ei ddatblygu.
"Bydd yn golygu y gellir cadw maint dosbarthiadau yn fach, a fydd, ynghyd â'r llu o addasiadau sy'n cael eu gwneud, yn cynnig yr amgylchedd dysgu gorau.
"Gan fod Ysgol y Deri yn darparu ar gyfer plant ar drawsy Sir, bydd hefyd yn gwneud teithio i'r ysgol yn haws i lawer."
Yn gynharach yn y mis, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru na fyddai'n ymyrryd yn y broses gynllunio ar gyfer Ysgol Y Deri 2.
Mae hyn yn golygu y gall y Cyngor ddechrau’r datblygiad yn unol â'r cynlluniau a gymeradwywyd fis Mawrth.