Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 22 Mis Awst 2023
Bro Morgannwg
Mae Amser Siarad am Fywyd yn y Fro yn arolwg newydd ar draws y sir o drigolion sy'n rhoi cyfle i bobl sy'n byw ym Mro Morgannwg rannu eu profiadau o wasanaethau cyhoeddus, eu blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol, a helpu'r Cyngor i ddeall yn well sut i gael mwy o bobl i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau lleol.
Mae'r arolwg yn fyw nawr yn cymrydrhan.valeofglamorgan.gov.uk/beth-am-siarad
Bydd pawb sy'n cymryd rhan yn yr arolwg hefyd yn cael cyfle i ennill un o ddeg taleb Love2Shop gwerth £50, y gellir eu gwario mewn amrywiaeth eang o siopau a bwytai'r stryd fawr.
Gall preswylwyr hefyd ymateb drwy'r post neu dros y ffôn a bydd staff y Cyngor mewn digwyddiadau cymunedol gydol yr haf i siarad â phobl wyneb yn wyneb.
Dwedodd y Cynghorydd Ruba Sivagnanam, yr Aelod Cabinet dros Ymgysylltu, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoliadol: "Mae'r arolwg hwn yn wahanol i arolygon eraill ledled y Fro y mae'r Cyngor wedi'u cynnal yn y gorffennol. Nid ydym yn gofyn yn unig pa mor fodlon yw pobl gyda gwasanaethau'r Cyngor. Yn hytrach, rydym yn ceisio deall sut beth yw bywyd i bobl sy'n byw yn y Fro a sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn effeithio ar hyn. "Rydym yn cymryd yr ymagwedd yma fel y gallwn ddatblygu ein gwasanaethau mewn ffordd sy'n golygu y byddant yn gwella ansawdd bywyd pobl, a lle bynnag y bo'n bosibl yn mynd i'r afael â'r materion sy'n bwysig i'r rhai sy'n byw yn y Fro. "Bydd yr arolwg yn ffynhonnell wybodaeth wirioneddol bwysig i ni. Bydd yn cael ei ddefnyddio i lywio llawer o'r penderfyniadau y mae'n rhaid i ni eu gwneud ar ail-lunio'r Cyngor i wynebu'r heriau niferus sydd o'n blaenau. Mae'n hanfodol ein bod yn clywed gan gynifer o bobl â phosibl ac o bob rhan o'r gymuned. "Mae gan bawb yn y Fro lais ac mae barn pawb yn bwysig."
Dwedodd y Cynghorydd Ruba Sivagnanam, yr Aelod Cabinet dros Ymgysylltu, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoliadol: "Mae'r arolwg hwn yn wahanol i arolygon eraill ledled y Fro y mae'r Cyngor wedi'u cynnal yn y gorffennol. Nid ydym yn gofyn yn unig pa mor fodlon yw pobl gyda gwasanaethau'r Cyngor. Yn hytrach, rydym yn ceisio deall sut beth yw bywyd i bobl sy'n byw yn y Fro a sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn effeithio ar hyn.
"Rydym yn cymryd yr ymagwedd yma fel y gallwn ddatblygu ein gwasanaethau mewn ffordd sy'n golygu y byddant yn gwella ansawdd bywyd pobl, a lle bynnag y bo'n bosibl yn mynd i'r afael â'r materion sy'n bwysig i'r rhai sy'n byw yn y Fro.
"Bydd yr arolwg yn ffynhonnell wybodaeth wirioneddol bwysig i ni. Bydd yn cael ei ddefnyddio i lywio llawer o'r penderfyniadau y mae'n rhaid i ni eu gwneud ar ail-lunio'r Cyngor i wynebu'r heriau niferus sydd o'n blaenau. Mae'n hanfodol ein bod yn clywed gan gynifer o bobl â phosibl ac o bob rhan o'r gymuned.
"Mae gan bawb yn y Fro lais ac mae barn pawb yn bwysig."
Mae'r ymatebion i'r arolwg yn cael eu casglu a'u dadansoddi yn annibynnol ar gyfer y Cyngor gan Data Cymru. Bydd ymchwilwyr yn Data Cymru yn cynnal dadansoddiad annibynnol o'r canlyniadau ac yn cyflwyno hyn i'r Cyngor. Unwaith y bydd y canlyniadau wedi'u dadansoddi, bydd y rhain yn cael eu hadrodd yn gyhoeddus.