Gwasanaeth Dydd Anghenion Cymhleth yn agor drysau i Gyngor Bro Morgannwg
Mae Gwasanaeth Dydd Anghenion Cymhleth Cyngor Bro Morgannwg yn yr Hen Goleg a Hyb YMCA yn y Barri wedi rhoi taith unigryw i Gyngor Bro Morgannwg o'u cyfleusterau o'r radd flaenaf a'u darpariaeth gofal eithriadol.

Mae’r gwasanaeth yn cynnig cyfleoedd dydd ystyrlon i oedolion ag anableddau dysgu, sydd hefyd ag amrywiaeth o anghenion cymhleth.
Maent yn defnyddio egwyddorion Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn i adeiladu amserlen gyfle wythnosol gyda'r person a'i deulu/gofalwyr, sy'n cael ei hadolygu a'i ddiweddaru'n rheolaidd. Mae hyn yn helpu pobl i gyflawni eu nodau a'u dyheadau eu hunain.
Dywedodd Sarah Sidman-Jones, Rheolwr Gwasanaeth Dydd: "Drwy gymryd rhan mewn gweithgarwch pwrpasol sy'n ysgogol ac yn ystyrlon i bobl, gyda chefnogaeth gan staff medrus iawn, gallwn oresgyn anghydraddoldebau a diwallu anghenion unigol.
"Yn ogystal â'n presenoldeb cymunedol, rydym wedi croesawu'r defnydd o dechnoleg ddigidol yn y lleoliad gwasanaeth dydd. Er enghraifft, mae’r dechnoleg syllu llygad ddiweddaraf yn galluogi pobl, sydd ag anableddau dysgu dwys a lluosog, i gyfleu eu dewisiadau a chynyddu eu hannibyniaeth.”
Mae datblygiadau mewn technoleg ddigidol yn caniatáu i'r staff gyfathrebu ag unigolion gan ddefnyddio amrywiaeth o offer synhwyraidd arbenigol.

Mae'r rhain yn cynnwys switshis sy'n caniatáu i bobl gael rheolaeth dros achos ac effaith, a datblygu eu sgiliau gwneud dewis, ac mae sgrin gyffwrdd ryngweithiol fawr yn galluogi pobl i gael mynediad at gyfrifiadur i gyfathrebu a dysgu.
Maent hefyd yn defnyddio cyfrifiaduron llechen i ymgysylltu â llwyfannau digidol ar gyfer y gymuned anabledd dysgu, sy'n galluogi pobl i gysylltu'n gymdeithasol â ffrindiau a chymryd rhan mewn sesiynau gweithgaredd ystyrlon ar-lein.
Dywedodd y Cynghorydd Eddie Williams: "Rydym yn falch iawn o'r gwasanaethau gofal ym Mro Morgannwg ac rydym yn ddyledus i'r staff anhunanol a gwych sy'n darparu'r cariad a'r sylw sydd ei angen ar oedolion sy'n agored i niwed.
"Mae'r cyfleusterau yn yr Hen Goleg a Hyb y YMCA heb eu hail ac maen nhw'n allweddol i'r rhai sy'n dibynnu arnyn nhw."
Nod y gwasanaeth dydd yw gwneud pethau 'cyffredin' mewn mannau 'cyffredin', gydag aelodau o'r gymuned leol.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Sarah Sidman-Jones ar 07816 881459 neu e-bostiwch ssidman-jones@valeofglamorgan.gov.uk: