Cost of Living Support Icon

 

Council makes £50 holiday payments

Bydd teuluoedd plant sydd wedi bod yn gymwys i gael taliadau gwyliau prydau ysgol am ddim yn derbyn £50 gan Gyngor Bro Morgannwg.

 

  • Dydd Llun, 21 Mis Awst 2023

    Bro Morgannwg



Mae hyn ar gael i deuluoedd sydd â hawl i'r cynllun talu prydau gwyliau blaenorol i’w helpu yn ystod gwyliau'r haf wrth i lawer barhau i wynebu heriau economaidd.

 

Cafodd taliadau gwyliau ar gyfer y grŵp hwn eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig Covid, ond mae'r rhaglen honno o gymorth ariannol bellach wedi dod i ben.

 

Fodd bynnag, wrth i'r argyfwng costau byw barhau, mae'r Cyngor wedi ymrwymo cyllid o fwy na £220,000 i sicrhau y bydd pob teulu cymwys yn derbyn taliad o £50 yn uniongyrchol i'w cyfrif banc.

Dywedodd y Cynghorydd Rhianon Birch, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg, y Gymraeg a'r Celfyddydau:  "Cafodd taliadau gwyliau o'r math yma eu cyflwyno'n wreiddiol yn ystod y pandemig i gefnogi pobl ar adeg pan oedd niferoedd mawr yn wynebu ansicrwydd ariannol.

 

"Ond, diolch byth, mae'r darlun coronafeirws wedi gwella'n sylweddol, mae llawer o deuluoedd yn dal i wynebu heriau wrth i gostau byw barhau i godi'n sydyn.

 

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd y taliadau hyn yn rhywfaint o help i leddfu'r pwysau hynny a helpu'r rhai sydd wedi cael eu taro galetaf gan brisiau cynyddol diweddar."