Cyngor yn ystyried gweithredu yn erbyn Consortiwm y Glannau
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn ystyried yr holl opsiynau posib i sicrhau bod cyfleusterau cymunedol a addawyd ers amser maith yn cael eu darparu fel rhan o ddatblygiad Glannau’r Barri.
Roedd Consortiwm y Glannau, sy'n cynnwys adeiladwyr tai cenedlaethol Persimmon Homes, Taylor Wimpey a Barratt Homes, eisoes wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer y prosiect hwn.
Fodd bynnag, er bod eiddo newydd yn parhau i gael eu codi a'u gwerthu'n gyflym, ychydig iawn o gynnydd sydd wedi'i wneud ar elfennau pwysig eraill o'r cynllun.
Mae mannau gwyrdd, parciau a llwybrau troed i'w gorffen o hyd, tra bod ffyrdd yn parhau i fod mewn cyflwr lle maent ond wedi’u cwblhau'n rhannol.
Mae'r Cyngor wedi cynnal trafodaethau rheolaidd gyda'r Consortiwm ynghylch y materion hyn ac mae'n parhau i bwyso am ymrwymiad ar eu cyflawni nhw.

Dwedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Dro ar ôl tro mae Consortiwm y Glannau wedi ei gwneud hi'n glir nad oes diddordeb cyflawni cydrannau cymunedol y datblygiad hwn ganddo.
"Bu catalog o dor-addewidion ac esgusodion gwan dros y diffyg cynnydd, ond eto, yn rhyfeddol, nid yw'n ymddangos bod y materion hyn yn effeithio ar raglen adeiladu tai'r datblygwyr.
"Yr unig gasgliad yw nad yw Consortiwm y Glannau yn poeni am gymuned. Mae'n adeiladu tai nid cartrefi, mae ganddo ddiddordeb mewn elw nid mewn pobl, a chreu eiddo y mae, nid llefydd bywiog, deniadol i fyw.
"Digon yw digon. Mae trigolion y Glannau yn haeddu gwell, ac nid ydym yn barod i sefyll o'r neilltu a derbyn y driniaeth hon.
"Mae’r consortiwm nid yn unig yn torri eu hymrwymiadau cyfreithiol, ond hefyd bolisïau llywodraeth leol a chenedlaethol ar greu lleoedd.
"Mae'n ymddangos bod rhannau eraill o'r wlad hefyd yn dioddef o ymagwedd debyg, gydag adroddiadau yn y cyfryngau yn nodi bod Cyngor lleol yn Essex wedi cymryd camau cyfreithiol yn erbyn yr un datblygwyr ar ôl iddynt fethu â darparu cyfleusterau cymunedol ar ddatblygiad mawr yno.
"Fel Cyngor, byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i ddwyn datblygwyr i gyfrif a sicrhau eu bod yn anrhydeddu eu hymrwymiadau."
Yn y gorffennol, bu'n rhaid i'r Cyngor weithredu yn erbyn Consortiwm y Glannau i sicrhau bod cyfadeilad o siopau, bariau a bwytai a adnabyddid fel y Ganolfan Ardal yn cael ei adeiladu, tra bod ysgol newydd Sant Baruc wedi'i chwblhau dim ond ar ôl i'r Cyngor fygwth camau cyfreithiol.
Mae angen sylw ar sawl ardal gyhoeddus ar y glannau, gan gynnwys ardaloedd chwarae plant, fel y mae tir a gymeradwywyd ar gyfer parc yn y Cei Dwyreiniol, sydd ar hyn o bryd â thwmpath o bridd arno.
Mae ardal werdd ar Ben y Clogwyn, ger Ysgol Gynradd Ynys y Barri, yn aros i'w chreu o hyd, tra bod safon y mannau agored mewn ardaloedd eraill yn wael, gyda phlannu annigonol ac ychydig yn unig o waith cynnal a chadw.
Mae angen gwneud gwelliannau diogelwch hefyd ar ddarn o ffordd ar hyd Ffordd Y Mileniwm cyn y gall y Cyngor gymryd cyfrifoldeb drosti.