Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn dathlu llwyddiant TGAU

Mae’r Cynghorydd Rhiannon Birch, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg, wedi llongyfarch myfyrwyr ar eu canlyniadau TGAU.

  • Dydd Gwener, 25 Mis Awst 2023

    Bro Morgannwg


 

 

Cllr Rhiannon BirchDerbyniodd disgyblion Blwyddyn 11 ar draws y Sir eu graddau heddiw a gallant nawr ddechrau cynllunio cam nesaf eu taith addysg neu gyflogaeth.

"Hoffwn estyn fy nymuniadau gorau i holl fyfyrwyr y Fro a dderbyniodd eu canlyniadau TGAU yn ddiweddar," meddai'r Cynghorydd Birch.

 

"Llongyfarchiadau i'r nifer sy'n dathlu ar ôl perfformiad ardderchog arall i'r Sir. Mae llawer o ymdrech wedi mynd i gyflawni'r llwyddiant hwn, felly rwy'n gobeithio bydd y disgyblion yn cymryd amser i fwynhau’r foment.

 

"Mae llawer iawn o waith caled hefyd yn cael ei wneud gan athrawon a staff ysgolion, ynghyd â chefnogaeth gan rieni, ac mae'r grwpiau hyn hefyd yn haeddu cydnabyddiaeth ar adeg fel hon.

 

"Byddwn yn annog disgyblion i fwynhau eu cyflawniadau, a beth bynnag a ddaw yn y dyfodol, rwy'n dymuno pob llwyddiant iddynt.

 

"Wrth gwrs, ni fydd pawb wedi cael y canlyniadau yr oeddent yn dymuno eu cael. I unrhyw un yn y sefyllfa honno, mae cymorth a gwybodaeth ar gael gan Gyd-bwyllgor Addysg Cymru a Llywodraeth Cymru."