Rhaglen Croeso Cynnes yn helpu miloedd o drigolion y Fro
Mae rhaglen Croeso Cynnes Cyngor Bro Morgannwg wedi dyfarnu bron i £30,000 i brosiectau cymunedol ac wedi gweld mwy na 3,500 o bobl yn defnyddio'u cyfleusterau y gaeaf hwn.
Fel rhan o waith y Cyngor i gefnogi dinasyddion yn ystod yr argyfwng costau byw, lansiwyd y fenter hon ym mis Medi.
Mae’n cynnig lle cynnes a chroesawgar i bobl ddod at ei gilydd heb unrhyw gost, mwynhau amrywiaeth o weithgareddau, os ydyn nhw'n dymuno, a chael cymorth costau byw.
Mae tua 40 o leoliadau ledled y Fro wedi cymryd rhan yn y cynllun, gan greu rhwydwaith o fannau cymunedol.
Maen nhw i gyd yn cynnig mynediad am ddim ac mae gweithgareddau ar gael saith niwrnod yr wythnos.
Y disgwyl yw mai dim ond 10 o’r rhain fydd yn dirwyn eu darpariaeth i ben, gan olygu felly y bydd yn parhau yn y rhan fwyaf ohonyn nhw yn y gwanwyn. Mae pob lleoliad yn cynnig gwahanol fath o gyfle i fwynhau cwmni, cymryd rhan mewn gweithgaredd, a manteisio ar y cyfleusterau sydd ar gael.
Mae manylion am yr hyn sydd ar gael ym mhob lleoliad i’w gweld ar yr Hyb Cymorth Costau Byw ar wefan Cyngor Bro Morgannwg.
Mae'r Hyb hefyd yn cynnig gwybodaeth ar fanteisio ar grantiau cymorth costau byw a manylion y cymorth sydd ar gael gan y Cyngor ac ystod o bartneriaid.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Mae'r argyfwng costau byw yn parhau i gael effaith andwyol ar gymaint o bobl o fewn ein cymunedau.
"Dyw gorfod dewis rhwng talu biliau ynni neu brynu bwyd ddim yn sefyllfa dderbyniol i unrhyw un, ond yn anffodus dyna'r union sefyllfa mae nifer cynyddol yn cael eu hunain ynddi.
"Mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio'n galed ers yr haf i ddarparu cyngor a chymorth i'r rhai sydd ei angen, yn ogystal â gweinyddu cannoedd o filoedd o bunnoedd o grantiau cymorth.
"Wrth i’r tywydd oeri, roedden ni eisiau cynyddu'r gefnogaeth sydd ar gael, a dod o hyd i ffordd o ddod â'n cymunedau at ei gilydd hefyd.
"Mae'r ystadegau'n awgrymu bod ein canolfannau Croeso Cynnes wedi gallu gwneud hynny ac rwy'n gobeithio y gwnaethon nhw roi rhywfaint o gysur bach i'r rhai sy'n cael trafferth gyda phwysau ariannol ac unigedd."