Dau draeth arall yn y Fro’n dod yn ddyfroedd ymdrochi dynodedig
Mae Bae'r Tŵr Gwylio a Thraeth Ogwr ill dau wedi cael eu nodi’n ddyfroedd ymdrochi dynodedig yn sgil gwaith gan Gyngor Bro Morgannwg a Chyngor Cymuned Saint-y-brid.
Gwnaeth Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRhR), sy'n gwneud gwaith yn ymwneud ag ansawdd dŵr, aer a thir o fewn awdurdodau lleol Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr a’r Fro, gais i Lywodraeth Cymru i roi’r statws hwnnw i’r traethau.
Rhwng Mai a Medi y llynedd, cydweithiodd Tîm Amgylchedd y GRhR gyda Grŵp Nofio lleol - y Watchtower Waders - i gasglu'r dystiolaeth angenrheidiol oedd ei hangen ar gyfer cais Bae'r Tŵr Gwylio
Roedd hyn yn cynnwys cofnodi nifer y bobl oedd yn defnyddio'r traeth yn ystod y tymor dŵr ymdrochi (Mai i Hydref) i brofi poblogrwydd y traeth i Lywodraeth Cymru.
Yn dilyn y cais, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar-lein yn gofyn i ymwelwyr â'r traeth, sydd rhwng Hen Harbwr y Barri a'r Cnap, beth oedden nhw'n ei feddwl am y posibilrwydd ohono’n dod yn draeth ymdrochi dynodedig.
O ganlyniad i'r cais llwyddiannus, bydd Bae'r Tŵr Gwylio nawr yn cael ei ychwanegu at y rhestr o ddyfroedd ymdrochi dynodedig yn y Fro ochr yn ochr â Bae Whitmore, Bae Jackson, Traeth y Cnap, Penarth, Bae Dunraven a Thraeth Colhuw yn Llanilltud Fawr.
Gwnaed cais llwyddiannus hefyd gan Gyngor Cymuned Saint-y-brid i ddynodi traeth Aberogwr yn ardal ymdrochi ddynodedig hefyd.
Caiff y traethau nawr eu cynnwys yn rhaglen fonitro Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a chaiff y dŵr ei brofi bob blwyddyn yn rheolaidd am 20 wythnos o ganol mis Mai.
Yna bydd yn cael dosbarthiad ar gyfer ansawdd y dŵr, o ardderchog i gwael.
Dywedodd y Cynghorydd Ruba Sivagnanam, yr Aelod Cabinet dros Ymgysylltu, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoliadol: "Rydym yn falch o'n traethau yn y Fro, ac am i gynifer o bobl â phosib eu mwynhau.
"Gobeithiwn, gydag ychwanegu Bae'r Tŵr Gwylio ac Aberogwr i'n rhestr bresennol o ddyfroedd ymdrochi dynodedig, y bydd yn denu hyd yn oed mwy o ymwelwyr at lannau’r môr, a fydd yn ei dro yn rhoi dyfroedd glân iddynt nofio ynddynt er iechyd a lles.
"Wrth i’r haf agosáu, rydyn ni'n gobeithio y bydd y dyfroedd ymdrochi sydd newydd eu dynodi yn dod â mwy o bobl i arfordir y Fro i fwynhau ein traethau ysblennydd, yn ogystal â dod â budd i lawer o fusnesau lleol ledled y sir."