Bwriad i gau ffordd ysgol i hyrwyddo teithio llesol
Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn treialu cau ffordd ger ysgol ym Mhenarth y mis nesaf mewn ymdrech i hyrwyddo teithio llesol.
Yn lansio yn Ysgol Gynradd Fairfield ym Mhenarth, nod y fenter Strydoedd Ysgol yw creu amgylchedd mwy diogel lle mai cerdded a beicio yw'r dewis amlwg i ddisgyblion a rhieni.
Dyfarnwyd cyllid i'r Cyngor trwy gronfa Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru (LlDmC) i greu prosiect dylunio strydoedd dan arweiniad y gymuned.
O 9 Mai, bydd Ysgol Gynradd Fairfield yn gweithredu system unffordd a chau ar adegau penodol yn Dryden Road, Penarth.
Gyda’r bwriad bod y cynllun ar waith am y 18 mis nesaf, dyma'r tro cyntaf i stryd ysgol gael ei chau ar rai adegau penodol o’r dydd yn y Fro, er mwyn creu amgylchedd di-draffig a diogel i ddisgyblion gyrraedd a gadael eu hysgol.
Ac eithrio preswylwyr, staff ysgol a cherbydau'r gwasanaethau brys, ni fydd cerbydau modur yn gallu cael mynediad i'r stryd ar adegau penodol o'r dydd, pan fydd disgyblion yn cyrraedd neu'n gadael yr ysgol.
Nod y cynllun yw annog a hwyluso teithio llesol i, ac o’r ysgol, gan roi cyfle i rieni a disgyblion ddewis dulliau teithio iachach, fel cerdded neu feicio.
Yn ogystal â hyrwyddo teithio llesol, gall cau strydoedd ger ysgolion i draffig ar adegau gollwng a chasglu helpu i leihau tagfeydd a gwella ansawdd aer, gan gyfrannu at fenter Prosiect Sero’r Cyngor i fod yn garbon niwtral erbyn 2030.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladau – Y Cynghorydd Mark Wilson: "Mae'r Cyngor ac Ysgol Gynradd Fairfield wedi’u cyffroi ynghylch dod â'r Stryd Ysgol gyntaf i'r Fro.
"Yn dilyn ymateb hynod gadarnhaol gan rieni, disgyblion, a thrigolion Dryden Road, rydym yn edrych ymlaen at ddarparu llwybr diogel i blant ifanc i'r ysgol.
"Rydym hefyd yn gobeithio y bydd mynd ati i annog y genhedlaeth iau i gerdded neu feicio i'r ysgol yn codi ymwybyddiaeth am yr amgylchedd ac yn eu helpu i wneud dewisiadau mwy gwyrdd yn y dyfodol.
"Mae hyn yn rhan o ymrwymiad y Cyngor i helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd wrth i ni geisio cyrraedd ein targed Prosiect Sero o fod yn garbon niwtral ymhen saith mlynedd.
"Os bydd cynllun Heol Dryden yn llwyddiant, rydyn ni'n gobeithio gallu cyflwyno cynlluniau tebyg mewn ysgolion eraill ledled y Fro."