Ardal Chwarae Porthceri ar ei newydd wedd ar agor mewn pryd ar gyfer Penwythnos Y Pasg
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi buddsoddi £180,000 yn trawsnewid yr ardal chwarae ym Mharc Gwledig Porthceri.

Wedi ymgynghoriad cyhoeddus llwyddiannus ym mis Gorffennaf 2022, lle rhannodd dros 200 o bobl eu barn, comisiynodd y Cyngor Dragon Play & Sports i ddylunio a darparu maes chwarae newydd.
Gan ymgorffori barn y cyhoedd, mae dyluniad yr ardal chwarae wedi’i seilio ar y thema coetir a natur, sy'n cyd-fynd â'r parc gwledig o'i chwmpas.
Mae nodweddion newydd yn cynnwys cylchfan hygyrch i gadeiriau olwyn, siglen fasged, siglenni fflat a chawell, pyramid net, polion totem synhwyraidd, offer llwybr a mwy. Mae yna hefyd siglen rhaff wedi'i hadnewyddu a chwch chwarae yn y parc.
Mae'r dyluniad wedi ei anelu at blant hyd at 12 oed.
Dywedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Leoedd Cynaliadwy: "Rwy'n hynod falch bod y prosiect hwn wedi'i gwblhau mewn pryd i blant fwynhau'r cyfleusterau newydd yn ystod gwyliau'r Pasg.
"Mae hwn yn lleoliad poblogaidd iawn, fel a brofwyd gan yr ymateb cadarnhaol i'r ymgynghoriad a'r dyluniadau terfynol. Mae'n denu ymwelwyr o bob cwr, nid y Fro yn unig, a dyma'r ail o'r ddau barc gwledig sydd yma i elwa o ardal chwarae wedi'i huwchraddio.
"Rwy'n gobeithio y bydd pawb yn mwynhau'r cyfleuster newydd yma."

Mae'r Cyngor hefyd wedi cytuno yn ddiweddar ar brydles newydd i'r hen gwt golff bach, sydd wedi cael ei adnewyddu ac a fydd yn agor fel caffi figan cyn hir. Mae hyn yn ychwanegol at y lluniaeth sydd eisoes yn cael ei gynnig gan y caffi poblogaidd Mrs Marco’s Café.
Wrth siarad yn yr agoriad dywedodd Ruth Zeraschi, aka Mrs Marco: "Pa mor lwcus ydyn ni i gael ardal chwarae mor hygyrch sydd wedi'i ddylunio'n hyfryd wedi lleoli yn syth ar draws y maes parcio."