Cost of Living Support Icon

 

Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor yn derbyn adroddiad arolygu gwych 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi derbyn adroddiad gwych yn dilyn arolygiad diweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ar yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol. 

 

  • Dydd Iau, 06 Mis Ebrill 2023

    Bro Morgannwg



Asesodd AGC y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc a’r Gwasanaethau Oedolion a chydnabod y lefel uchel y mae'r ddau'n gweithredu arni.


Mae eu hadroddiad yn tynnu sylw at uwch arweinyddiaeth gref o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol a'r cynlluniau strategol clir sydd ar waith i werthuso gwelliannau.


Roedd tystiolaeth glir o welliant ers i AGC gynnal gwiriad sicrwydd ym mis Tachwedd 2021, gan arwain at ganlyniadau gwell i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd.


Nodwyd hefyd bod y rhan fwyaf o bobl yn derbyn cefnogaeth a gwasanaethau’n brydlon, ac roedd sylwadau cadarnhaol eraill yn ffocysu ar y gefnogaeth a ddarperir i gynnal diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau a'r ymdrechion a wneir i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed.


Daeth arolygwyr o hyd i dystiolaeth bod cyfathrebu yn Gymraeg ac ieithoedd eraill yn cael ei gynnig a chyfeirio at y buddsoddiad sy'n cael ei wneud mewn sicrhau ansawdd, gyda swyddi newydd fydd yn canolbwyntio ar y maes hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Eddie Williams, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: "Rydym yn ddiolchgar i Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) am y gwaith y maen nhw wedi'i gwblhau yn asesu'r Gwasanaethau Cymdeithasol ac yn falch iawn o ganlyniadau'r adroddiad arolygu, sy'n hynod gadarnhaol. 


"Mae'r gydnabyddiaeth i'r safonau uchel a gyflawnir gan y Gwasanaeth i'w groesawu’n fawr, ac yn gymeradwyaeth wych i ymroddiad ein staff Gofal Cymdeithasol, sydd wedi parhau i berfformio at lefelau eithriadol ar adeg heriol i ddarpariaeth Gofal Cymdeithasol ledled Cymru.


"Maen nhw wedi gweithio'n ddiwyd, yn aml yn gwbl anhunanol, yn erbyn cefndir o bwysau mawr ar adnoddau a mwy o alw, gan barhau i gynnig cymorth o'r radd flaenaf i rai o drigolion mwyaf agored i niwed y Fro. Am hynny oll, mae pawb sy'n gysylltiedig â’r gwaith hwn yn haeddu clod aruthrol.


"Bydd y buddsoddiad sy'n cael ei wneud yn y maes hwn yn cryfhau'r Gwasanaeth ymhellach, gan helpu i gynnig mwy fyth i'r rhai yn y Fro sydd ei angen fwyaf.


"Bydd meysydd a nodwyd gan yr adroddiad ar gyfer gwelliant hefyd yn cael eu defnyddio i lywio datblygiadau’r dyfodol."