Digwyddiad cyngor yn taclo aflonyddu rhywiol ymhlith pobl ifanc
Cynhaliodd Cyngor Bro Morgannwg ddigwyddiad lle'r oedd un o'i grwpiau cyfranogiad ieuenctid yn cyflwyno canfyddiadau adroddiad a gynhyrchwyd ar wella diogelwch ar y stryd.
Mae Ei Llais Cymru yn gweithio gyda Gwasanaeth Ieuenctid y Cyngor ac mae'n cynnwys merched rhwng 13 ac 17 oed o bob rhan o'r Sir.
Roedden nhw eisiau codi ymwybyddiaeth o chwibanu ac aflonyddu rhywiol ymhlith pobl ifanc felly dechreuodd yr #ymgyrchniddimynteimlonddiogel.
Roedd hynny'n golygu cynnal arolwg i'r broblem.
Yna ysgrifennwyd adroddiad yn seiliedig ar y canfyddiadau hyn a'i gynnwys wedi'i gyflwyno i gynulleidfa ddethol yn Siambr y Cyngor.

Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn cynnwys Lis Burnett, y Cynghorydd Ruba Sivagnanam, Aelod Cabinet ar gyfer Ymgysylltu â’r Gymuned, Cydraddoldeb a’r Gwasanaethau Rheoleiddio, cynrychiolwyr Heddlu De Cymru, a Jane Hutt, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol.
Bu'r merched yn gweithio gyda dylunydd lleol i greu posteri, gyda'r gwaith celf yn annog pobl ifanc i sôn am achosion o aflonyddu ac egluro sut i fynd ati i wneud hynny.
Gofynnon nhw i bobl wneud addewid i roi cyhoeddusrwydd i'r mater a chynnig awgrymiadau o welliannau y gellid eu gwneud, gan gynnwys creu Mannau Diogel.
Mae'r fenter hon yn cynnwys gofyn i fusnesau ledled y Fro arddangos sticer yn eu ffenestr sy'n dangos bod hwn yn lle diogel i fynd iddo.
Pan fydd person ifanc yn teimlo'n agored i niwed, gall ddefnyddio'r man hwn fel lloches.
Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys cyflwyniadau gan Plan International UK ar eu hymchwil Trosedd nid Canmoliaeth, a chyflwyniad gan Caerdydd AM BYTH i drafod Mannau Diogel.
Dwedodd y Cynghorydd Burnett: "Rydyn ni eisiau i bawb yn ein cymunedau deimlo'n ddiogel, ac er bod tystiolaeth yn awgrymu bod y rhan fwyaf yn, mae wastad lle i wella.
"Mae aflonyddu rhywiol ymhlith pobl ifanc yn gwbl annerbyniol, ond, yn anffodus, mae'n broblem wirioneddol bod angen i ni fynd i'r afael â hi.
"Cefais fy ysbrydoli'n fawr gan y gwaith mae'r menywod ifanc hyn wedi'i wneud i fynd i'r afael â'r mater hwn.
"Maen nhw wedi bod yn ddigon dewr i'w wynebu'n uniongyrchol, gan feddwl am nifer o awgrymiadau ymarferol i sicrhau newid.
"Fe wnaeth y cyflwyniad wnaethon nhw ei roi at ei gilydd argraff fawr arnaf - roedd yn help i'r rhai oedd yn bresennol ddeall yr heriau sy'n wynebu menywod a merched ifanc yn y Fro.
"Fel Cyngor, mae'n rhaid i ni edrych ar eu hargymhellion a gwneud popeth o fewn ein gallu i'w gweithredu."
Ychwanegodd Tiona Ross, aelod o Ei Llais Cymru: "Fe wnes i fwynhau bod yn rhan o'r digwyddiad yma, oherwydd gallaf gael fy llais i'w glywed felly diolch!"