Cyngor yn ystyried Cynllun Ailgartrefu Cyflym
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn ystyried Cynllun Ailgartrefu Cyflym er mwyn helpu sicrhau bod unrhyw un sy'n profi digartrefedd yn gallu symud i gartref sefydlog cyn gynted â phosib.
Mae hyn yn ddewis arall yn lle aros mewn llety dros dro a gwestai am gyfnodau hir.
Roedd y Cyngor wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio gwestai a llety gwely a brecwast nifer o flynyddoedd yn ôl, ond nid oedd y niferoedd uchel o bobl ddigartref yn ystod y pandemig a'r prinder sylweddol o dai fforddiadwy wedi gadael fawr o opsiynau eraill.
Ar hyn o bryd, mae tua 240 o aelwydydd yn byw mewn llety dros dro, gyda thraean ohonynt yn westy neu'n ddarpariaeth gwely a brecwast. .

Cafodd adroddiad ar y Cynllun Ailgartrefu Cyflym ei drafod gan Gabinet y Cyngor a bydd nawr yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Craffu.
Mae'n nodi sut y gellir lleihau'r defnydd o westai a mathau eraill o lety dros dro anaddas dros y flwyddyn ariannol nesaf trwy weithredu rhai camau allweddol.
Mae’r rhain yn cynnwys:
• Adeiladu mwy o dai cymdeithasol.
• Cynyddu nifer yr unedau llety dros dro sy'n eiddo i'r Cyngor.
• Sicrhau mwy o fynediad i gartrefi rhentu preifat.
• Ail-fodelu cartrefi Cyngor presennol er mwyn darparu ar gyfer nifer mwy o bobl sengl.
• Blaenoriaethu pobl ddigartref sy'n byw mewn llety dros dro i'w lleoli mewn tai rhent cymdeithasol.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Mae pwysau dybryd yn wynebu Adran Tai'r Cyngor ar hyn o bryd, gydag un mater yn nifer y bobl sy'n byw mewn lleoliadau gwesty dros dro.
"Mae hyn yn amhriodol ac yn anaddas am sawl rheswm, gan gynnwys y diffyg cyfleusterau coginio, a dyma'r math drytaf o lety hefyd.
"Mae angen i ni leihau'r defnydd o nifer y bobl sydd yn y lleoliadau hyn ac mae'r cynllun hwn yn esbonio sut y gellid cyflawni hynny.
"Mae'r cynigion yn golygu adeiladu mwy o dai cymdeithasol, cynyddu nifer yr unedau Cyngor sydd ar gael i bobl sengl a gweithio gyda landlordiaid preifat i hybu capasiti.
"Efallai y byddwn hefyd yn gallu gwneud mynediad at dai mwy parhaol yn haws i'r rhai mewn llety dros dro."