Cost of Living Support Icon

 

Cynllun llogi beiciau yn cael ei lansio yn Llanilltud Fawr

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ehangu ei ddarpariaeth llogi beiciau trwy gyflwyno cynllun yn Llanilltud Fawr.

 

  • Dydd Gwener, 21 Mis Ebrill 2023

    Bro Morgannwg

    Llantwit Major



Yn cael ei weithredu gan Brompton Bikes, mae cyfleuster docio sy'n cael ei bweru gan solar ar gyfer wyth beic wedi'i osod y tu allan i orsaf reilffordd y dref.


Mae'r beiciau ar gael am £5 am 24 awr a gellir eu plygu, sy'n eu gwneud yn ddelfrydol ar gyfer cymudwyr.

 

brompton2Mae rhenti hirach hefyd ar gael ar gyfer y modelau chwe gêr, y gellir eu cadw ymlaen llaw, y cyfan trwy’r ap.

Dywedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Aelod Cabinet Bro Morgannwg dros Fannau Cynaliadwy:  "Rwyf wrth fy modd ein bod ni wedi gallu dod â'r cynllun llogi beiciau arloesol, cost-effeithiol hwn i Lanilltud Fawr. 

 

"Mae modd plygu’r beiciau Brompton, maen nhw’n hawdd eu defnyddio ac mae’n opsiwn teithio deniadol a chynaliadwy i deithwyr rheilffordd.


"Wedi datgan argyfwng hinsawdd, mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod y math hwn o drafnidiaeth ar gael ac yn fforddiadwy. 


"Bydd y beiciau o fudd i iechyd a lles eu defnyddwyr a hefyd yn helpu'r Cyngor i gyflawni ei darged Prosiect Sero i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030."

Mae'r Cyngor wedi sicrhau arian o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ar gyfer y prosiect yma, sydd ar gael fel rhan o'r agenda Codi'r Gwastad. 


Mae'n adeiladu ar y ddarpariaeth beiciau llogi sydd eisoes ar gael yn y Fro, lle lansiwyd cynllun rhannu beiciau electronig cyntaf Cymru ym Mhenarth dair blynedd yn ôl. 


Ers hynny, mae rhagor o orsafoedd dociau wedi’u cyflwyno yn Sili a Dinas Powys, ac mae cynlluniau i ymestyn y rhwydwaith ymhellach.