Cost of Living Support Icon

 

Gerddi Cymin yn Dathlu Llwyddiant Pirates of Penzance

 

  • Dydd Iau, 01 Mis Medi 2022

    Bro Morgannwg


 

 

IMG-3934Pirates 5

Yn ddiweddar, cynhaliwyd cynhyrchiad theatr llwyddiannus yng Ngerddi’r Cymin o opera gomig Gilbert a Sullivan, The Pirates of Penzance.

 

Daeth 250 o bobl i’r lleoliad ym Mhenarth, a reolir gan Gyngor Bro Morgannwg, i gymeradwyo a rhoi hwrê i gynhyrchiad theatr gan Illyria y gwerthwyd pob tocyn ar ei gyfer.

 

Gan agor y sioe gyda'u cân gyntaf Pour O Pour the Pirate Sherry, roedd y Cast yn cynnwys y gynulleidfa o'r cychwyn cyntaf, gan chwistrellu'r rhesi cyntaf o'r gynulleidfa gyda chawod ysgafn o ddŵr o’u mygiau môr-ladron i effaith gomig fawr.

 

Bu'r gynulleidfa'n gwrando ar fersiynau o ganeuon poblogaidd cyfarwydd fel y Modern Major-General Song a Come Friends who Plough the Sea.

 

Wrth iddi nosi, daeth y sioe yn fwy bywiog wrth i'r llwyfan gael ei oleuo gan roi awyrgylch hudolus i'r stori.

Pirates - all cast

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg, y Cynghorydd Rhiannon Birch:  "Mae'r cwmni yn eithriadol o dda ac yn hynod ddoniol, yn gwbl ddifyr ac yn dal sylw'r gynulleidfa drwyddi draw. Roedd hi'n noson ardderchog ac roeddwn i’n mwynhau mas draw ac rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at weld cynhyrchiad nesaf Illyria o 'A Midsummer Night's Dream’.

 

"Mae llwyddiant y cynyrchiadau diweddar hyn, a berfformir gan Illyria, yn dangos gallu'r lleoliad i gynnal digwyddiadau rhagorol. Mae lleoedd fel y rhain yn atyniadau lleol pwysig."

Illyria began its outdoor productions over thirty years ago, and the company’s popularity has allowed them to tour all over the UK and internationally.  

 

Dechreuodd Illyria ei chynyrchiadau awyr agored dros ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, ac mae poblogrwydd y cwmni wedi eu galluogi i deithio ledled y DU ac yn rhyngwladol.  

 

Bydd Theatr Illyria yn dychwelyd i'r Cymin nos Wener, 2 Medi am 7pm gyda'u cynhyrchiad o A Midsummer Night's Dream.   I gael tocynnau, ewch i dudalen we Eventbrite.