Cyngor yn cymryd rhan mewn digwyddiad glanhau traethau
Ymunodd Cyngor Bro Morgannwg â phlant ysgol lleol a chynrychiolwyr o sefydliadau eraill mewn digwyddiad glanhau traethau diweddar ym Mhenarth.
Gwnaeth tua 90 o ddisgyblion o Sant Joseff, Fictoria a Westbourne gasglu sbwriel cyn cymryd rhan mewn gweithdy ar faterion amgylcheddol a gynhaliwyd gan staff y Cyngor a Cadwch Gymru'n Daclus.
Siaradodd yr artist lleol Nick John Rees, sy'n arddangos darnau ym Mhafiliwn Penarth, gyda'r disgyblion ac ateb cwestiynau am ei waith, sy'n canolbwyntio ar olygfeydd morol.
Bwriad y digwyddiad oedd codi ymwybyddiaeth o faterion gwyrdd yn unol â Phrosiect Sero, cynllun y Cyngor i fod yn Garbon Niwtral erbyn 2030.
Roedd hefyd yn rhan o Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu'r Awdurdod, ac mae elfen ohoni'n edrych ar sut y gellir cyfoethogi'r meysydd lle mae cyfleusterau addysgol yn cael eu huwchraddio.
Bu aelodau o gontractwyr ISG ac AECOM, sy'n ymwneud â rhaglen adeiladu ysgolion y Cyngor, yn bresennol, ynghyd ag unigolion o Benthyg Gwyrddio Penarth Greening a Chymuned Tyfu Penarth.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Dylai edrych ar ôl y blaned fod yn bwysig i bawb ac mae'n brif flaenoriaeth i'r Cyngor.
"Fel sefydliad, rydym wedi gwneud addewid cadarn i leihau ein hallbwn carbon drwy Brosiect Sero, gyda'r nod o ddod yn garbon niwtral erbyn 2030. Mae addysgu'r genhedlaeth nesaf am y pwnc hwn yn rhan hanfodol o'r gwaith hwnnw, yn ogystal â'n Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu. Mae hynny wedi ein gweld ni'n darparu ysgol carbon sero net gyntaf Cymru yn Ysgol Gynradd Trwyn y De, tra bod eraill hefyd yn brolio amrywiaeth o nodweddion dylunio ynni effeithlon.
"Mae'r digwyddiad hwn nid yn unig wedi gwella'r dirwedd leol, gan gadw at agwedd bwysig o'r gwaith Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu hwnnw, ond hefyd wedi rhoi cyfle i ddisgyblion ddysgu am yr her hinsawdd rydym yn ei hwynebu."