Cyngor yn nodi Mis Dal y Bws
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn nodi 'Mis Dal y Bws' drwy dynnu sylw at y rhwydwaith o wasanaethau sy'n gweithredu ledled y Sir.
Mae Mis Dal y Mis yn ymgyrch genedlaethol i hyrwyddo'r dull hwn o deithio a drefnir gan Bus Users UK, Ymddiriedolaeth Elusennol a sefydlwyd i wella teithio ar fws.
Mae'n cael ei gynnal yn flynyddol ym mis Medi, ac mae'n dathlu'r bws fel math cynaliadwy, cynhwysol a hygyrch o deithio sy'n lleihau tagfeydd, yn gwella ansawdd aer ac yn cadw pobl yn gysylltiedig.
Yn y Fro, mae gwasanaethau bysiau yn cludo teithwyr ar hyd tua 10,000 cilomedr bob dydd ar lwybrau sy'n ymestyn drwy'r sir.
Mae rhai yn teithio yn ôl ac ymlaen o Gaerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr a Thonysguboriau, gan wasanaethu rhai o'n cymunedau mwyaf gwledig.
Mae'r llwybrau allweddol sy'n gwasanaethu ein cymunedau gwledig yn cynnwys:
- Gwasanaeth 303 sy'n teithio o Lanilltud Fawr i Ben-y-bont ar Ogwr ar hyd Sain Dunwyd, Marcroes, yr As Fawr, Brychdwn, Y Wig, Saint-y-brid, Southerndown, Aberogwr, Pentref Ogwr ac Ewenni.
- Mae'r gwasanaeth 304 yn gweithredu rhwng Llanilltud Fawr a Chaerdydd, gan alw yn Nhrebefered, Eglwys Brewys, Sain Tathan, Dwyrain Aberddawan, Ffwl-y-mwn, Y Rhws, y Barri, Ysbyty Llandochau a Bae Caerdydd ar hyd y ffordd.
- Mae gwasanaeth 320 yn dechrau yn Nhonysguboriau ac yn gwasanaethu Pontyclun, Meisgyn, Hensol, Clawdd Coch, Pendeulwyn, Gwern-y-Steeple, Llanbedr-y-fro, Llansanffraid-ar-elái, Sain Siorys, Y Drôp, Sain Ffagan a'r Tyllgoed ar ei ffordd i Gaerdydd.
- Mae'r gwasanaeth 321 yn un arall sy'n dechrau yn Llanilltud Fawr cyn galw ym Mhentre Cwrt, Stad Fasnachu Llandŵ (B4268), Llyswyrni (Penyrheol Terrace), Y Bont-faen, Aberthin, Maendy, Ystradowen, Brynsadler, Pontyclun a Thonysguboriau.
- Mae gwasanaeth yr X2 yn teithio rhwng Porthcawl a Chaerdydd, drwy Drelales, Pen-y-bont ar Ogwr, Tregolwyn (A48), Pentremeurig (A48), Gerddi Clare, Y Bont-faen, Saint Hilari (A48), Tair Onnen (A48), Tresimwn (A48), Sain Nicolas (A48), Y Tymbl (A48), Croes Cwrlwys (A48) a Bae Caerdydd.
Gellir dod o hyd i amserlenni ar gyfer y rhain a gwasanaethau eraill sy'n gweithredu yn y Fro ar wefan Traveline Cymru, lle mae cynllunydd teithiau hefyd ar gael, neu wefannau ac apiau y gweithredwyr bysiau eu hunain.
Dywedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Aelod Cabinet Bro Morgannwg dros Fannau Cynaliadwy: "Mae'r gwasanaethau bws sy'n gweithredu yn ein cymunedau yn chwarae rhan hanfodol o ran cadw pobl mewn cysylltiad a mynd i'r afael ag unigrwydd. Maent yn ddiogel i’w defnyddio, maent yn helpu i gefnogi'r economi leol ac maent hefyd er budd yr amgylchedd. Mae'r olaf o'r rhain yn hollbwysig i'r Cyngor wrth i ni geisio gweithredu Prosiect Sero, ein cynllun i ddod yn Garbon Niwtral erbyn 2030."
Fel rhan o 'Fis Dal y Bws', bydd cynrychiolydd o Gabinet y Cyngor yn mynychu digwyddiad ymgysylltu a drefnir gan Fws Caerdydd ac Adventure Travel yn Sgwâr y Brenin yn y Barri ddydd Mawrth, Medi 27.
Yn digwydd rhwng 10am a 2pm, bydd yn cynnig cyfle i ddefnyddwyr bysiau ofyn cwestiynau a darganfod mwy am y gwasanaethau sy'n gweithredu yn eu hardaloedd.