Cost of Living Support Icon

 

Sesiynau bowlio wythnosol i'w cynnal yn Llanbedr-y-fro

Mae Tîm Byw'n Iach Cyngor Bro Morgannwg wedi buddsoddi sesiynau bowlio wythnosol yn Neuadd Bentref Llanbedr-y-fro.

 

  • Dydd Llun, 03 Mis Hydref 2022

    Bro Morgannwg



Peterston Bowls SessionsGyda chyllid gan Chwaraeon Cymru, dyrannodd tîm Byw'n Iach arian o’r Gronfa Euraidd ar gyfer y prosiect sy'n ceisio mynd i'r afael ag unigedd a hyrwyddo annibyniaeth a gweithgarwch corfforol yn y rhai 60+.


Mae'r Gronfa Euraidd yn gronfa grantiau gystadleuol sydd ar gael i sefydliadau sy'n barod i gynnig gweithgareddau newydd i bobl 60 oed a mwy. Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar wella gweithgarwch corfforol a chyfleoedd chwaraeon i gymunedau sydd â'r angen mwyaf ledled y sir.


Mae'r sesiynau wedi bod yn cael eu datblygu ers i’r Ysgogwr Euraidd gwirfoddol, John Barnes gydnabod cyfle i gamp gymdeithasol gyson i drigolion yn Llanbedr-y-fro Ers hynny mae John wedi gweithio'n agos gyda'r Tîm Byw'n Iach ac wedi arwain y gyntaf o'r sesiynau ar 30 Medi.


Bydd y gweithgareddau'n digwydd bob dydd Gwener 9:30 - 12:30 ac mae ar gael i drigolion y Fro 60+ oed.

Dywedodd y Cynghorydd Gwyn John - Yr Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Lles: "Roeddwn i wrth fy modd yn clywed bod y sesiwn fowlio gyntaf heddiw yn llwyddiant!


"Bydd y cynllun yn gyfle gwych i drigolion gymdeithasu wrth gymryd rhan mewn camp.


"Mae'n bwysig iawn ein bod yn mynd i'r afael â materion yn ymwneud ag iechyd ac unigedd y gwyddom eu bod yn gyffredin yn y grŵp oedran 60+, ac rwy'n siŵr y bydd y sesiynau hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y gymuned.


"Da iawn i bawb wnaeth gymryd rhan!"

Dywedodd y John Barnes - Ysgogwr Euraidd gwirfoddol: "Roedd yn wych gweld pobl o bob gallu yn rhoi cynnig arni ac yn mwynhau’r gweithgaredd newydd.

 

"Roedd rhai o’r cyfranogwyr yn y sesiwn gyntaf yn cymysgu’n gyhoeddus am y tro cyntaf mewn dros ddwy flynedd oherwydd y pandemig.

 

"Nod y prosiect hwn, yn debyg i rai eraill yn y Fro, yw annog pobl hŷn i gymdeithasu wrth gymryd rhan mewn ychydig o weithgaredd corfforol a argymhellir yn gryf gan weithwyr iechyd proffesiynol."