Cost of Living Support Icon

 

Lansio arddangosfa “Sky – Body – Spirit” yn yr Oriel Gelf Ganolog

'A allai Duw fod yn ferch' ac ‘A all lluniau wella' yw rhai o'r cwestiynau a ofynnwyd ac a ystyriwyd gan yr artist o Gaerdydd, Prith B, yn ei harddangosfa unigol gyntaf yn Oriel Gelf Ganolog, y Barri.

 

  • Dydd Gwener, 21 Mis Hydref 2022

    Bro Morgannwg



PrithB

Mae'r arddangosfa'n cyflwyno amrywiaeth o waith celf sy'n canolbwyntio ar bortreadau benywaidd, gan gynnwys cynfasau haniaethol mawr a llu o bortreadau benywaidd hynod ddiddorol.

 

Mae Prith B yn disgrifio'i hun fel artist ffeministaidd, o dreftadaeth Indiaidd, Affricanaidd sy'n cwestiynu'n ymwybodol normau esthetig sut mae menywod a menywod o liw, yn cael eu portreadu mewn celf, mewn bywyd, a sut maent yn aml yn absennol o hanes a heb eu cynrychioli mewn hanes.

 

Gyda chefnogaeth Gwasanaeth Datblygu Celf Cyngor Bro Morgannwg a Chyfeillion Celf Ganolog, cynhaliwyd digwyddiad lansio swyddogol ar 8 Hydref 2022 a oedd yn gyfle i'r rhai oedd yn bresennol ddysgu am yr ysbrydoliaeth a'r straeon y tu ôl i'r gwaith celf.

 

Bydd yr arddangosfa “Sky – Body – Spirit” yn parhau ar agor i'r cyhoedd tan 12 Tachwedd. Ochr yn ochr â'r arddangosfa, mae Prith yn cynnal cyfres o weithdai creadigol fel rhan o Raglen Dysgu Creadigol Ysgolion Cyngor Celfyddydau Cymru.

 

Cynhelir y gweithdy ‘Remember…’ ar 22 Hydref 11am-1pm a bydd yn ystyried ac yn dathlu cariad a cholled.

 

Cynhelir yr ail o'r gweithdai, 'Reclaiming Our Bodies - A Workshop for Women (or people who identify as women)' ar 29 Hydref 11am – 1pm a bydd yn archwilio canfyddiadau o'r corff.

 

Gellir archebu ar wefan Bro Morgannwg.

 

Meddai'r artist, Prith B:    "Rydyn ni'n gwybod bod artistiaid benywaidd yn absennol o hanes celf ac mae menywod yn cael eu portreadu'n aml iawn o safbwynt gwrywaidd, ond mae yna'r dimensiwn ychwanegol o liw.

 

"Sut ydyn ni'n cael ein cynrychioli mewn celf?

 

"Mae yna esthetig benywaidd gwyn sy'n bodoli eisoes rwy'n mynd i'r afael â hi yn fy ngwaith.  Dwi'n meddwl bod angen i fenywod o liw weld eu hunain mewn celf, fel artist a phwnc, er mwyn iddo fod yn bosibilrwydd yn eu bywydau." 

 

Dywedodd y Cynghorydd Rhiannon Birch, Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg:  "Mae’r arddangosfa “Sky – Body – Spirit” yn mynd i'r afael â llawer o faterion amserol sy'n cael eu hadlewyrchu yn amcanion y Cyngor er mwyn cefnogi cymuned amrywiol y Fro.

 

"Roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn ymgysylltu â'r gwaith celf a Prith ei hun yn y digwyddiad lansio.

 

"Bydd y gweithdai sydd ar y gweill yn gyfle gwych i ddeall mwy am y pwnc gan hefyd ddysgu sgiliau artistiaid gan artist lleol talentog."