Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mercher, 12 Mis Hydref 2022
Bro Morgannwg
Ar hyn o bryd, mae contractwyr yn cyflwyno dyluniadau ar gyfer y prosiect, fydd yn golygu bod cyfleusterau'n cael eu hadnewyddu a'u gwella.
Daw hyn wedi i Grŵp Gweithredu Ieuenctid Penarth nodi'r safle fel un yr hoffent ei weld yn cael ei wella.
Mae disgwyl i'r gwaith yn y lleoliad ar Heol Sant Marc ym Mhenarth ddechrau yn fuan ac i hynny gael ei gwblhau erbyn mis Mawrth.
Mae’r ailddatblygiad hwn yn rhan o raglen eang i wella cyfleusterau chwarae ledled y Fro.
Mae'n dilyn gwaith diweddar tebyg yn ardal chwarae St David's Crescent ym Mhenarth, Windmill Lane yn Llanilltud Fawr a Chlos Peiriant a Central Park yn Y Barri.
Meddai'r Cynghorydd Mark Wilson, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a Gwasanaethau Adeiladau:
"Rwy'n edrych ymlaen at weld ein gwaith gwella ardaloedd chwarae eang yn parhau gyda phrosiect i adnewyddu'r AChA ar y Maes Hamdden ym Mhenarth. "Mae'r gwaith hwn wedi golygu bod cyfleusterau'n cael eu huwchraddio ledled y Fro, gan roi mannau ymgysylltu modern a diogel i blant wneud ymarfer corff. "Mae aros yn actif yn hanfodol bwysig ym mhob cyfnod o fywyd, yn bennaf pan yn ifanc fel y gall gwneud hynny sefydlu arferion iach sy'n para am oes. "Mae mwy o uwchraddio ar y gweill, gyda newyddion i ddilyn maes o law."
"Rwy'n edrych ymlaen at weld ein gwaith gwella ardaloedd chwarae eang yn parhau gyda phrosiect i adnewyddu'r AChA ar y Maes Hamdden ym Mhenarth.
"Mae'r gwaith hwn wedi golygu bod cyfleusterau'n cael eu huwchraddio ledled y Fro, gan roi mannau ymgysylltu modern a diogel i blant wneud ymarfer corff.
"Mae aros yn actif yn hanfodol bwysig ym mhob cyfnod o fywyd, yn bennaf pan yn ifanc fel y gall gwneud hynny sefydlu arferion iach sy'n para am oes.
"Mae mwy o uwchraddio ar y gweill, gyda newyddion i ddilyn maes o law."