Lansio Canolfan Bwyd a Mwy Llanilltud yn llwyddiant mawr
Yn ddiweddar, bu trigolion Llanilltud Fawr a'r gymuned ehangach yn bresennol yn lansiad swyddogol y Ganolfan Bwyd a Mwy newydd, o dan Bartneriaeth Prosiect Bwyd Llanilltud Cyngor Bro Morgannwg, dan arweiniad Bwyd y Fro.
Cynhaliwyd y lansiad, a oedd yn lansiad ar y cyd â swyddfa newydd Age Connects yn Nhŷ Illtud, yng Nghanolfan Gymunedol CF61 a Thŷ Illtud yn Llanilltud Fawr ddydd Iau 20 Hydref.
Bydd y Ganolfan Bwyd a Mwy yn cael ei gynnal ar y trydydd dydd Iau o bob mis, 12:30 – 2:30 ochr yn ochr â'r Chatty Café.
Mae trigolion yn gallu cael mynediad at lawer o wasanaethau, gan gynnwys cymorth, cyngor a chefnogaeth ar ystod o bynciau, mynediad at arddangosiadau coginio a mwy yn y Ganolfan Bwyd a Mwy misol.
Mae'r “FoodShare” presennol yn CF61 wedi trosglwyddo i fodel pantri lle gall pobl dalu ffi fechan i gael bwyd fforddiadwy. Cynhelir y “FoodShare” bob dydd Iau 12:30 - 2:00.
Dechreuodd Prosiect Bwyd Llanilltud y Cyngor ym mis Hydref 2020 gyda'r nod o ddeall beth yw'r rhwystrau o ran cael mynediad at fwyd da yn Llanilltud Fawr.
Trwy sgyrsiau gydag aelodau ac arbenigwyr cymunedol lleol, mae'r grŵp wedi cael gwell dealltwriaeth o'r hyn y gellid ei wneud i wella hyn.
Mae enghreifftiau'n cynnwys cefnogi'r “FoodShare” presennol yn CF61, sefydlu canolfan i roi cyngor a threialu gwasanaeth pantri bwyd symudol.
Enillodd y prosiect gyllid o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn gynharach yr haf hwn, a bellach mae'n dechrau rhoi'r camau hyn ar waith.
Yn gynharach eleni, symudodd swyddfa Age Connects i Dŷ Illtud, lle mae Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg hefyd wedi'u lleoli.
Gan weithio gyda’r Cyngor, gwnaethant gais llwyddiannus am arian Cymunedau Cysylltiedig Unigrwydd ac Unigedd Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a chyllid Cymunedau Sy'n Dda i Bobl Hŷn Llywodraeth Cymru i helpu pobl hŷn yng Ngorllewin y Fro i deimlo’n hapusach, yn iachach ac yn llai unig trwy eu cysylltu â’u cymuned, gwasanaethau cymorth a gweithgareddau cymdeithasol.
Defnyddiwyd y grant i addasu'r swyddfa newydd ac ar gyfer cynllun grantiau bach fel bod grwpiau cymunedol yn gallu gwneud cais am grant ar gyfer prosiectau sy'n cefnogi pobl hŷn. Mae gan Age Connects nifer o wasanaethau sy'n gweithredu o'r swyddfa.
Deadline for bids to be submitted to GVS is 12 noon on Friday 18th November 2022. Application forms are available by emailing ceri@gvs.wales or enquiries@gvs.wales.
Dywedodd y Cynghorydd Eddie Williams, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: "Rwy'n falch ein bod yn gallu datblygu gwasanaethau y mae mawr eu hangen fel Canolfan Bwyd a Mwy Llanilltud Fawr. Mae mynediad at fwyd fforddiadwy, iach a maethlon yn un o'r egwyddorion craidd sy'n sail i waith Bwyd y Fro.
"Mae'r argyfwng costau byw yn effeithio ar nifer o deuluoedd ac unigolion ledled y Fro ar hyn o bryd ac mae yna grwpiau a sefydliadau gwych sy'n gweithio'n galed i leddfu'r straen sy'n gysylltiedig â hynny."
Dywedodd Paul Warren, Rheolwr Gweithrediadau yn y Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GGM):
"Trwy gydol y pandemig a thu hwnt, dangosodd “FoodShare” Llanilltud nerth, gwytnwch a chreadigrwydd cymuned unedig i ddarparu gwasanaeth hanfodol, ac mae'r fenter Bwyd a Mwy yn rhywbeth y mae GGM yn hynod falch o'i gefnogi a bod yn bartner allweddol iddi.
"Dylai’r ffaith nad oes gan bobl yn ein cymuned efallai ddigon o fwyd i’w roi ar eu platiau fod yn bryder i bawb. Y newyddion da yw y gallwn ni i gyd chwarae rhan wrth wneud rhywbeth amdano. Bydd Bwyd a Mwy yn gwneud cyfraniad hanfodol tuag at sicrhau bod ein gwasanaeth hanfodol yn parhau i leihau tlodi bwyd a chynyddu diogelwch bwyd yn Y Fro Orllewinol."
Dywedodd Teresa Power, Rheolwr Pontio a Newid Datblygiadol yn Age Connects Caerdydd a'r Fro:
"Mae Age Connects yn falch iawn o weithio gyda chymaint o sefydliadau sy'n helpu trigolion Llanilltud Fawr a'r ardaloedd cyfagos"
Dywedodd Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:
"Mae'n wych gweld y gwaith caled gan yr holl bartneriaid y tu ôl i'r prosiect hwn yn cael ei roi ar waith. Mae mor bwysig bod gan bawb fynediad at y gefnogaeth sydd ei angen arnynt, yn enwedig o ran cael mynediad at fwyd fforddiadwy a maethlon, ac yn enwedig yn ystod y cyfnod heriol hwn"
I gael rhagor o wybodaeth am brosiectau Bwyd y Fro, ewch i'w gwefan.