Cost of Living Support Icon

 

Gwaith adnewyddu Cysgodfa Cliff Hill  ar y gweill

Mae Gwaith wedi dechrau ar gynllun i ailadeiladu'r gysgodfa hanesyddol ar Cliff Hill ym Mhenarth.

 

  • Dydd Mawrth, 11 Mis Hydref 2022

    Bro Morgannwg

    Penarth



Roedd yr adeilad ffrâm bren wedi datblygu i fod yn lle poblogaidd i eistedd  ar hyd arfordir Penarth cyn mynd yn adfail.


Nawr, gan ddefnyddio cyllid Adran 106, mae'r Cyngor wedi cyfarwyddo y cwmni penseiri Aberrant i adfer y strwythur i'w hen ogoniant, gan ail-greu ei nodweddion a'i gymeriad gwreiddiol.


Mae arian adran 106 yn gyfraniadau ariannol a roddir i'r Cyngor gan gwmnïau sy'n adeiladu datblygiadau cyfagos i'w defnyddio ar brosiectau cymunedol. 

 

cliffhill

Bydd y lloches wedi'i adnewyddu hefyd yn cynnwys darn o gelf gyhoeddus sy'n cynrychioli hanes y lleoliad yn unol â chanlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus. 
Y gobaith yw y bydd y gwaith wedi'i gwblhau erbyn y Nadolig.


Dywedodd y Cynghorydd Mark Wilkinson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai a Gwasanaethau Adeiladau: "Mae'r gysgodfa bysiau hon yn dirnod pwysig ac eiconig ym Mhenarth. Mae'n adlewyrchu treftadaeth yr ardal ac yn cynnig lle perffaith i brofi rhan olygfaol o Arfordir y Fro.


"Rydym wedi gadael i farn trigolion lywio'r prosiect adfer hwn, gyda gwaith yn cyd-fynd â'r ymatebion a gawsom i ymgynghoriad cyhoeddus diweddar. 


"Mae arian o ddatblygiad Penarth Heights wedi talu am y gwaith yma.  Dyma'r enghraifft ddiweddaraf o'r Cyngor yn sicrhau arian o brosiectau adeiladu er budd y gymuned ehangach."