Gardd Pawb yn agor i'r gymuned
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi gweithio gyda phartneriaid a thrigolion i drawsnewid safle oedd wedi mynd yn adfail oddi ar Margaret Avenue yn Colcot yn ofod llewyrchus i'r gymuned ei fwynhau.
I ddathlu cwblhau'r prosiect, cynhaliwyd diwrnod agored ar 19 Hydref, gan roi cyfle i'r gymuned weld yr hyn sydd gan Ardd Pawb i'w gynnig.
Ar ôl cael cyllid i ddatblygu'r tir, bu Tîm Cyfoethogi Cymunedau’r Cyngor yn gweithio'n agos gyda thrigolion a phartneriaid i ddarparu gofod cymunedol a rennir.
Mae gan yr ardd amrywiaeth o nodweddion gan gynnwys tŷ gwydr a wnaed o boteli plastig wedi'u hailgylchu, ardal chwarae, rhandir, a chanolfan addysg.
Roedd y prosiect yn ymdrech gydweithredol gyda phartneriaid a thrigolion. Fe wnaeth Ysgol Gynradd Colcot, Cymdeithas Trigolion Colcot, Bouygues UK, Horizon Civil Engineering, Cyfoeth Naturiol Cymru, Eggseeds, Addysg Cartref Cymru, Gwasanaeth Ieuenctid y Fro, Dechrau'n Deg a Chartrefi’r Fro i gyd helpu i ddatblygu elfennau o'r safle oedd wedi’u dewis gan y gymuned trwy ymgynghoriad cyhoeddus.
Bydd grwpiau cymunedol ac Ysgol Gynradd Colcot nawr yn allweddol i’r gwaith cadw a chynnal a chadw, ac mae nifer ohonynt eisoes wedi cynnal digwyddiadau, gweithdai, a sesiynau lles ar y safle.
Os hoffech gymryd rhan yng Ngardd Pawb, cysylltwch â'r Swyddog Cyfoethogi Cymunedau Mark Ellis er mwyn cael rhagor o wybodaeth: MarkEllis@valeofglamorgan.gov.uk
Dywedodd y Cynghorydd Margaret Wilkinson, yr Aelod Cabinet dros Dai yn y Sector Cyhoeddus ac Ymgysylltu â Thenantiaid:
"Mae wedi bod yn wych gweld cynnydd y safle. Mae wedi'i drawsnewid o fod yn fan lle roedd llawer o dipio anghyfreithlon i fod yn hyb cymunedol diogel.
"Mae llwyddiant y prosiect wedi bod yn bosibl diolch i ymdrech ar y cyd gan lawer o wasanaethau, sefydliadau, a'r gymuned - da iawn, bawb!
"Mae'n wych gweld grwpiau lleol ac ysgolion yn defnyddio’r ardal a’r gobaith nawr yw y bydd llawer mwy yn manteisio ar y cyfleusterau gwych sydd ganddi i'w cynnig."