Croeso cynnes ar gael ledled y Fro dros yr hydref a’r gaeaf
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi lansio cynllun Croeso Cynnes ar gyfer hydref a gaeaf 2022/23.
Fel rhan o waith y Cyngor i gefnogi dinasyddion yn ystod yr argyfwng costau byw, mae'r cynllun yn agor lleoliadau ar hyd a lled y Fro i greu rhwydwaith o fannau cymunedol.
Bydd y rhain yn cynnig lle cynnes a chroesawgar i bobl ddod at ei gilydd heb unrhyw gost, mwynhau amrywiaeth o weithgareddau, os ydyn nhw'n dymuno, a chael cymorth costau byw.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Mae'r argyfwng costau byw yn gorfodi llawer o bobl i wneud penderfyniadau amhosib. Yn syml, ni ddylai gorfod dewis rhwng talu biliau ynni neu brynu bwyd fod yn dderbyniol i unrhyw un mewn unrhyw gymuned.
"Mae’n gas gen i’r ffaith bod yna bobl nad ydyn nhw’n gallu fforddio cynhesu eu cartrefi na bwydo eu teuluoedd a’n bod yn y sefyllfa hon.
"Gydol yr haf rydym wedi bod yn datblygu gwasanaethau i ddarparu cyngor a chymorth i'r rhai sydd ei angen, yn ogystal â gweinyddu cannoedd o filoedd o bunnoedd o grantiau cymorth.
"Wrth i ni fynd i mewn i’r hydref a’r gaeaf roedden ni eisiau cynyddu'r gefnogaeth sydd ar gael, a dod o hyd i ffordd i ddod â'n cymunedau at ei gilydd hefyd. Gan ddechrau'r wythnos hon bydd dros 20 o leoliadau yn cynnig Croeso Cynnes i drigolion. Ymhlith y gweithgareddau sydd ar gael mae dosbarthiadau coginio, gweithgareddau i blant, sesiynau crefft, a'r cyfan ochr yn ochr â chyfle i gael diod gynnes mewn lle cynnes.
"Rydym yn disgwyl i hyn gynyddu wrth i ni weithio gyda grwpiau cymunedol lleol a rhai o'n partneriaid gwirfoddol ac o'r trydydd sector i'w helpu i ddatblygu eu cynlluniau eu hunain ac rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un fyddai'n hoffi cymryd rhan."
Mae'r holl leoliadau sy'n cynnig Croeso Cynnes ym Mro Morgannwg am ddim i fynd iddyn nhw a bydd gweithgareddau ar gael saith niwrnod yr wythnos. Mae pob lleoliad yn cynnig math gwahanol o gyfle i gael cwmni, cymryd rhan mewn gweithgaredd, a manteisio ar y cyfleusterau sydd ar gael.
Mae manylion am yr hyn sydd ar gael ym mhob lleoliad i’w gweld yn yr Hyb Costau Byw ar wefan Cyngor Bro Morgannwg. Mae'r Hyb hefyd yn cynnwys gwybodaeth ynghylch sut i gael gafael ar grantiau cymorth costau byw a sut i gael cyngor a chefnogaeth arall gan y Cyngor ac ystod o bartneriaid.