Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun, 21 Mis Tachwedd 2022
Bro Morgannwg
Eleni, bydd Maer Bro Morgannwg yn cynnal cystadleuaeth cerdyn Nadolig i egin artistiaid ar draws ysgolion cynradd y Fro.
Mae'r Maer yn gofyn i blant ysgol gyflwyno dyluniadau ar gyfer ei gerdyn Nadolig blynyddol fydd yn ei anfon ar gyfer Nadolig 2022.
Bydd y cerdyn Nadolig yn cynnwys y dyluniad buddugol a bydd yn cael ei anfon yn ddigidol ar draws y wlad.
Bydd yr enillydd lwcus hefyd yn cael ei wahodd i gael te gyda'r Maer.
I gystadlu bydd gofyn i blant gyflwyno dyluniadau eu cardiau ynghyd â'u henw, eu hoedran, pa ysgol y maen nhw’n ei mynychu a chyfeiriad cyswllt ar gefn pob llun.
Y dyddiad cau ar gyfer cystadlu yw dydd Mercher 30 Tachwedd.
Gellir anfon cyflwyniadau mewn e-bost i Swyddfa'r Maer yn Mayor@valeofglamorgan.gov.uk. Gallwch hefyd bostio eich dyluniadau atom yn Swyddfa'r Maer, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, y Barri CF63 4RU.