Gwaith gwella ar gyfer cynllun tai gwarchod

Bydd Cynllun Tai Gwarchod yn cael llu o welliannau iddo er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r safonau uchaf.
Bydd Longmeadow Court, cyfadeilad ymddeol yn y Bont-faen sy'n cynnwys 24 o fflatiau, yn elwa o orchuddion to newydd, ffasgiâu, ffenestri, drysau, inswleiddio waliau, porth a mwy.
Rhwng 2012 a 2018, cyflwynodd y Cyngor Raglen Wella Fawr i ddod â chyflwr ei stoc dai i fyny at ofynion Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC).
Ers hynny, mae'r Awdurdod wedi parhau i gynnal yr holl eiddo, a hefyd yn gweithio i'w gwneud yn fwy ecogyfeillgar yn unol â Phrosiect Sero, ei gynllun i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030.
Cafodd SMK Building & Maintenance Ltd ei ddewis fel y contractwr i wneud y gwaith.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Wilkinson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai a Gwasanaethau Adeiladau: "Fel Cyngor mae'n bwysig ein bod ni nid yn unig yn darparu llety o safon uchel, ond hefyd yn cadw'r eiddo ar y safon hynny.
"Bydd y gwaith gwella hwn yn sicrhau bod Longmeadow Court yn parhau i gynnig cartref cyfforddus, diogel, wedi'i gynnal yn briodol i'w breswylwyr.
"Dim ond un enghraifft yw hon o waith parhaus sy'n digwydd i ofalu am ein stoc dai gyda mwy o uwchraddiadau ar y gweill."