Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 15 Mis Tachwedd 2022
Bro Morgannwg
Mae'r amserlen yn cynnwys gweithdai gwneud torchau Nadolig, sgyrsiau hanes celf, dangosiadau Polar Express brecinio a the prynhawn Nadoligaidd, arddangosiad celf yr ŵyl, a noson gabare Nadolig.
A hwythau’n cael eu cynnal o 30 Tachwedd, mae'r digwyddiadau Nadoligaidd yn darparu ar gyfer amrywiaeth o oedrannau a diddordebau. Mae prisiau’r tocynnau'n cychwyn o £7.25 ac mae modd archebu ar wefan Bro Morgannwg.
Yn ogystal â'r gyfres o ddigwyddiadau, mae'r Pafiliwn yn cynnal diwrnod agored am ddim ddydd Sadwrn 10 Rhagfyr.
Bydd y diwrnod hefyd yn gyfle i grwydro o amgylch y lleoliad eiconig a dysgu am y digwyddiadau cyffrous sydd yn yr arfaeth ar gyfer 2023.
Bydd y dathliadau'n dechrau am 11am gyda charolau yng nghwmni Band Byddin yr Iachawdwriaeth Penarth, ac yna mins peis a cherddoriaeth y tu mewn i'r Pafiliwn.
Y Cynghorydd Rhiannon Birch – Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg: "Mae amserlen yr ŵyl eleni yn edrych yn wych, ac rwy'n siŵr y bydd llawer yn ei mwynhau. "Ar ôl rhaglen waith helaeth i adfer yr adeilad poblogaidd, mae hi bob amser yn wych gweld drysau'r Pafiliwn ar agor i'r gymuned. "Bydd y diwrnod agored yn gyfle gwych i ymdrochi yn ysbryd y Nadolig mewn lleoliad prydferth."
Y Cynghorydd Rhiannon Birch – Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg: "Mae amserlen yr ŵyl eleni yn edrych yn wych, ac rwy'n siŵr y bydd llawer yn ei mwynhau.
"Ar ôl rhaglen waith helaeth i adfer yr adeilad poblogaidd, mae hi bob amser yn wych gweld drysau'r Pafiliwn ar agor i'r gymuned.
"Bydd y diwrnod agored yn gyfle gwych i ymdrochi yn ysbryd y Nadolig mewn lleoliad prydferth."