Dweud eich dweud am wella lles
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) y Fro yn ymgynghori ar ei ail Asesiad Lles a gyhoeddir ym mis Mai 2023.
Mae gan y BGC gyfrifoldeb i ddatblygu a chyflwyno Cynllun Lles, sy'n cynnwys ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer y Fro a'n blaenoriaethau ar gyfer gwella lles lleol.
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg yn dod ag uwch-arweinwyr ynghyd o sefydliadau'r sector cyhoeddus a’r trydydd sector ar draws Bro Morgannwg i weithio mewn partneriaeth er mwyn dyfodol gwell.
Mae'r Cynllun Lles newydd yn nodi tri Amcan Lles newydd a'r meysydd blaenoriaeth y bydd y BGC yn canolbwyntio arnynt dros y blynyddoedd nesaf. Y rhain yw:
- Bro Sy’n Fwy Cydnerth a Gwyrdd
- Bro Sy’n Fwy Actif ac Iach
- Bro Sy’n Fwy Cyfartal a Chysylltiedig
Mae'r cynllun yn nodi 19 cam y bydd partneriaid yn eu cymryd dros y pum mlynedd nesaf i gyflawni'r amcanion hyn, megis annog a galluogi pobl o bob oed i fod yn fwy gweithredol, a hyrwyddo manteision cofleidio ffordd iachach o fyw.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd y BGC, "Rydym yn deall bod Bro Morgannwg yn ardal amrywiol, a bod gan ei chymunedau anghenion, dyheadau a phryderon gwahanol iawn. Mae'n bwysig nodi mai nod y Cynllun hwn yw gwella lles lleol dros y pum mlynedd nesaf. Rydym yn gweithredu mewn cyfnod hynod heriol, ond byddwn bob amser yn gweithio gyda'n partneriaid i sicrhau ein bod yn diwallu anghenion cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol."
Mae'r Cynllun Lles wedi cael ei lywio gan asesiad o les yn y Fro, gafodd ei gyhoeddi'n gynharach eleni, a rhaglen o ymgysylltu â'r cyhoedd a gynhaliwyd dros yr haf.
Mae'r Asesiad Lles yn nodi rhai o'r prif faterion i'r Fro o ran yr argyfyngau hinsawdd a natur. Drwy'r Cynllun hwn mae partneriaid yn ymrwymo i gydweithio i fynd i'r afael â'r materion hyn. Bydd hyn yn cynnwys ystyried trafnidiaeth, ynni, bwyd, bioamrywiaeth a sut rydym yn defnyddio ein hadeiladau a'n tir.
Hoffai'r BGC glywed gan gynifer o bobl â phosibl i ganfod a yw'r blaenoriaethau cywir wedi'u nodi yn y Cynllun i wella lles lleol.
Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal am gyfnod o 12 wythnos, tan 29 Ionawr 2023.
Yn ystod y cyfnod hwn bydd partneriaid y BGC yn cwrdd â rhanddeiliaid allweddol i drafod cynnwys y Cynllun.
Rhannwch eich barn gyda ni drwy ymweld â thudalen arbennig y prosiect a chwblhau ein harolwg.