Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Gwener, 25 Mis Tachwedd 2022
Bro Morgannwg
Dim ond dau fag du o wastraff na ellir ei ailgylchu y gall trigolion eu cyflwyno i’w casglu bob yn ail wythnos fel arfer.Ond, er mwyn helpu i ddelio â’r gwastraff ychwanegol sy’n cael ei greu dros gyfnod yr ŵyl, fe fydd y rheol hon yn cael ei llacio rhwng 26 Rhagfyr a 13 Ionawr.
Mae trigolion yn dal i gael eu hannog i ailgylchu cymaint o ddeunydd ag y gallant. Yn aml gall papur lapio a phecynnau eraill gael eu hailgylchu, neu eu hailddefnyddio os nad yw hynny'n bosibl.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Wilkinson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Adeiladau a’r Priffyrdd: "Rydyn ni’n deall y ceir mwy o wastraff dros dymor y Nadolig ac rydyn ni am gael gwared arno mewn ffordd sydd mor ymarferol â phosib i drigolion. "Gyda hyn mewn golwg, ni fydd unrhyw gyfyngiadau ar faint o wastraff bag du y gall aelwyd ei roi allan am dair wythnos. "Fodd bynnag, byddem yn annog pobl i ddefnyddio'r cyfle hwn i gael gwared ar wastraff Nadolig na ellir ei ailgylchu yn unig. "Fe wnaeth y Cyngor ddatgan argyfwng hinsawdd yn 2019 ac mae wedi ymrwymo i Brosiect Sero, ei gynllun i fod yn garbon niwtral erbyn 2030. "Mae ein gweithgareddau ailgylchu wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda'n perfformiad ymysg y gorau yng Nghymru. "Mae cynnal a gwella ar y safonau hynny yn hanfodol wrth i ni geisio helpu i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd a gwella'r amgylchedd naturiol."
Dywedodd y Cynghorydd Mark Wilkinson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Adeiladau a’r Priffyrdd: "Rydyn ni’n deall y ceir mwy o wastraff dros dymor y Nadolig ac rydyn ni am gael gwared arno mewn ffordd sydd mor ymarferol â phosib i drigolion.
"Gyda hyn mewn golwg, ni fydd unrhyw gyfyngiadau ar faint o wastraff bag du y gall aelwyd ei roi allan am dair wythnos.
"Fodd bynnag, byddem yn annog pobl i ddefnyddio'r cyfle hwn i gael gwared ar wastraff Nadolig na ellir ei ailgylchu yn unig.
"Fe wnaeth y Cyngor ddatgan argyfwng hinsawdd yn 2019 ac mae wedi ymrwymo i Brosiect Sero, ei gynllun i fod yn garbon niwtral erbyn 2030.
"Mae ein gweithgareddau ailgylchu wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda'n perfformiad ymysg y gorau yng Nghymru.
"Mae cynnal a gwella ar y safonau hynny yn hanfodol wrth i ni geisio helpu i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd a gwella'r amgylchedd naturiol."