Cost of Living Support Icon

 

Datganiad ar waith gwella yn Ysgol Gynradd Y Bontfaen 

Mae'r Prif Weithredwr Rob Thomas wedi gwneud datganiad ar y sefyllfa bresennol

 

  • Dydd Iau, 19 Mis Mai 2022

    Bro Morgannwg

    Rural Vale



Dywedodd Rob Thomas, Prif Weithredwr Cyngor Bro Morgannwg: "Mae Ysgol Gynradd Y Bontfaen wedi cau i rai disgyblion am gyfnod byr yn dilyn asesiad risg, a gynhaliwyd fel rhan o waith atgyweirio'r to.  Cafodd y materion diogelwch uniongyrchol eu datrys yn brydlon y penwythnos diwethaf, ond ni fu'n bosibl diystyru materion diogelwch pellach yn llwyr, wrth i waith buddsoddi yn adeilad yr ysgol fynd rhagddo.

 

"Diogelwch disgyblion a staff yw blaenoriaeth y Cyngor. Am y rheswm hwn, bydd Blynyddoedd, 3, 4, 5 a 6 yn cael eu haddysgu mewn lleoliadau amgen am weddill y tymor tra y gwneir gwaith i atgyweirio'r to a gosod nenfydau crog newydd, ynghyd â goleuadau cysylltiedig. Bydd disgyblion Meithrin, Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 yn parhau i fynychu'r ysgol yn ôl yr arfer. Mae staff o'r Cyngor wedi gweithio'n agos gyda staff yr ysgol i sicrhau ymateb cyflym i bryderon. Gwnaed trefniadau ar gyfer lleoliadau dysgu amgen yn ddi-oed er mwyn sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl ar ddisgyblion. 

 

"Mae'r camau hyn wedi'u cymryd fel mesur rhagofalus i osgoi rhoi unrhyw un mewn unrhyw fath o berygl ac i sicrhau y gellir cwblhau’r gwaith cyn gynted â phosibl.

 

"Yn groes i lawer o awgrymiadau, nid yw'r angen i ddod o hyd i leoliadau eraill dros dro ar gyfer rhai grwpiau blwyddyn o ganlyniad i'r diffyg buddsoddiad yn yr ysgol, ond yn hytrach y canlyniadau anfwriadol sydd wedi dod i'r amlwg o ganlyniad i fuddsoddiad sylweddol yn adeilad yr ysgol. Dechreuodd cam dau'r gwaith o atgyweirio to Ysgol y Bontfaen ar 4 Ebrill a dyma'r enghraifft ddiweddaraf o fuddsoddiad diweddar sylweddol gan y Cyngor yn yr ysgol, a fydd yn dod i gyfanswm o fwy na £400,000 erbyn yr haf. Gan fod hwn yn brosiect 16 wythnos, nid oedd yn bosibl cyfyngu’r gwaith i wyliau'r ysgol. Roedd disgwyl hefyd i'r gwaith gael ei gwblhau'n ddiogel yn ystod y tymor wrth i gam cyntaf y gwaith o atgyweirio'r to gael ei wneud heb fod angen adleoli disgyblion.

 

"Nid oes unrhyw faterion diogelwch eraill o unrhyw fath wedi'u nodi gan yr asesiad risg.

 

"Mae adrannau'r Cyngor sy'n gyfrifol am eiddo, addysg ac iechyd a diogelwch wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â'r ysgol a chontractwyr yr wythnos hon i reoli'r ymateb i'r heriau a gyflwynir yn ofalus.


"Hoffwn ymddiheuro i ddisgyblion, rhieni a staff am yr anghyfleustra y gallai'r sefyllfa annisgwyl hon ei achosi a hefyd cynnig sicrwydd bod y Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau nad oes effaith negyddol ar brofiad addysgol disgyblion mewn unrhyw ffordd tra bod buddsoddiad gan y Cyngor i adeilad yr ysgol yn cael ei ddatblygu."